Newyddion S4C

Trafnidiaeth Cymru gam yn nes at gwblhau'r Metro

07/06/2024

Trafnidiaeth Cymru gam yn nes at gwblhau'r Metro

Gorsaf Pontypridd fydd yn gweld mwy o drenau'n mynd a dod wrth i Drafnidiaeth Cymru symud gam yn nes at gwblhau'r Metro.

Cynllun fydd yn costio £1 biliwn yn y pen draw.

"Fydd e'n galluogi ni i weithredu mwy o drenau a gwasanaethau yn ardaloedd llinellau craidd y Cymoedd yn bennaf.

"'Dan ni'n gofyn pobl i wirio eu taith cyn teithio i sicrhau os ydy'r gwasanaeth 'di newid bod nhw'n gwybod lle i fynd."

Ymhlith y newidiadau fe fydd cynnydd yn nifer y trenau o Gaerdydd i Bontypridd o chwech i wyth yr awr.

Bydd cynnydd hefyd o bedwar i chwech trên yr awr rhwng Caerdydd a Chaerffili.

Dau drên bob awr rhwng Caerdydd a Rhymni hefyd o gymharu ag un ar hyn o bryd.

Bydd hefyd mwy o drenau gyda'r hwyr i Dreherbert, Aberdar a Merthyr.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud mai dyma'r newid mwyaf i'r amserlen yng Nghymoedd y De ers 30 mlynedd ac yn addo mwy i ddod.

Gyda threnau trydan yn cymryd lle trenau fel hwn o'r '70au a'r '80au.

Bryd hynny hefyd bydd nifer y gwasanaethau i'r Cymoedd yn y Rhondda, Cynon a Merthyr yn dyblu bob awr.

"Rili dda, ie, mae'n dda."

Faint o wahaniaeth ti'n meddwl wnaiff e i ti?

"Fydd e'n fwy addas achos ti'n gallu cael mwy o drenau.

"Fydd e'n neis i fi gael trên i'r ysgol hefyd."

"'Dan ni 'di disgwyl degawd am y diwrnod yma.

"Ni'n dechrau gweld rwan cynnydd yn y gwasanaethau yn ne Cymru oherwydd y buddsoddiad."

Fel rhan o'r newidiadau fe fydd mwy o drenau i gludo ymwelwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd fis Awst.

"Fydd gynnon ni drenau newydd sbon o Gaerdydd a gwasanaethau hwyr ar gyfer Maes B a ballu.

"'Dan ni'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod ac i gael pobl ar ein trenau newydd sbon.

"Bydd e'n braf clywed be mae pobl Cymru yn meddwl o'r trenau."

Cam cyntaf i ehangu'r gwasanaeth rhwng y brifddinas a'r Cymoedd fydd y newid yn yr amserlen sy'n dechrau ddydd Sul.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.