Newyddion S4C

Y chwilio yn parhau am y darlledwr Michael Mosley yng ngwlad Groeg

07/06/2024
Dr Michael Moseley

Bydd yr ymgyrch chwilio am y meddyg a'r darlledwr Michael Mosley yng ngwlad Groeg yn parhau ddydd Gwener.

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod Dr Mosley, 67 oed, wedi mynd ar goll ar ynys Symi, lle'r oedd ar ei wyliau ar y pryd.

Cafodd Dr Mosley, sy'n aml yn ymddangos ar raglenni fel This Morning, ei weld am y tro diwethaf ddydd Mercher.

Dywedodd heddlu Gwlad Groeg fod y darlledwr wedi gadael ei wraig ar y traeth cyn cychwyn ar daith gerdded i ganol yr ynys.

Yn ôl y llu, cafwyd hyd i ffôn Mr Mosley lle’r oedd yn aros gyda’i wraig.

Image
Dr Michael Mosley
Cafodd llun o Mr Mosley ar wyliau yn Symi ei rannu ar grŵp Facebook lleol ddydd Mercher

Cafodd yr ymgyrch chwilio ei ohirio neithiwr ond dywedodd yr heddlu y bydd “mwy o ddynion yn dod” fore Gwener.

Ar hyn o bryd, mae'r grŵp chwilio yn cynnwys 25 o bobl gan gynnwys swyddogion yr heddlu, diffoddwyr tân a gwirfoddolwyr.

Cafodd hofrennydd ei anfon o Athens am 19:00 amser lleol nos Iau fel rhan o’r chwilio ac mae’n parhau i gael ei ddefnyddio.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cael ei chynorthwyo gan gŵn heddlu yn ogystal â dronau sy’n chwilio mewn ardaloedd anghysbell.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teulu dyn o Brydain sydd ar goll yng Ngwlad Groeg ac rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol."

Mae Dr Mosley yn adnabyddus i wylwyr This Morning a The One Show am rannu cyngor ar sut i gadw’n iach ac yn heini.

Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres BBC, Trust Me, I’m a Doctor ac ar y podlediad, Just One Thing.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.