Newyddion S4C

'Pwysau’n cynyddu' ar Rob Page ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Gibraltar

07/06/2024
Rob Page

Mae’r ‘pwysau yn cynyddu’ ar reolwr Cymru Rob Page ar ôl i’w dîm fethu ag ennill yn erbyn Gibraltar.

Gyda'r tîm cartref yn y 203ydd safle allan o 210 o wledydd ar restr detholion y byd FIFA, roedd Cymru yn ffefrynnau cryf wrth i’r ddau dîm gwrdd yn Estadio Algarve ym Mhortiwgal ddydd Mawrth.

Ond ni lwyddodd y Dreigiau i ganfod y rhwyd yn ystod y 90 munud, wrth i Gibraltar ddal ymlaen am gêm gyfartal 0-0 – y gêm gyntaf iddyn nhw beidio â cholli ers dros 18 mis.

Roedd Page wedi dewis tîm amhrofiadol i ddechrau’r gêm, gyda Josh Sheehan yn gapten ar ei bumed ymddangosiad, tra bod pum chwaraewr arall yn ennill eu capiau cyntaf dros eu gwlad.

Dywedodd Page ar ôl y gêm: "Fe wnaethon ni chael hi'n anodd torri nhw i lawr. Ry'n ni'n derbyn fod hyn yn annerbyniol.

"Bu'n rhaid i gwpwl o chwaraewyr edrych ar eu hunain o'r rhan dwyster gwaith oddi ar y bêl."

Yn ôl cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones, roedd y canlyniad yn “siom anferthol”.

“Dw i’n meddwl fod o’n rheswm arall i bobl sydd ddim yn meddwl bod Rob Page yn ddigon da, neu nid Rob Page ydi’r boi i gario Cymru ymlaen - mae’n rheswm arall i adio at hynny.

"A galla’n ni ddim dweud yn wahanol ar ôl y gêm yna.

“Gafodd Gibraltar eu dewis fel gêm gyfeillgar dw i’n meddwl achos fysa Cymru 'di licio peidio cael gêm, fel sesiwn ymarfer ychwanegol.

“Felly dewis Gibraltar i ennill yn gyfforddus a drwy beidio gwneud hynna, mae o’n siom anferthol. Ond, mi allan ni or-ymateb.

“Gêm gyfeillgar ydi hi ar ddiwedd tymor, mae 'di roi capiau i fois newydd, profiad i fois eraill, mae’n mynd i gael ei feirniadu mewn gemau cystadleuol.

"Dydi o ddim yn mynd i golli swydd, ond dydi o just ddim yn helpu ac mae’r pwysau yn cynyddu.”

Ychwanegodd cyn-ymosodwr Cymru, Malcolm Allen: “Mae o wedi cael ei feirniadu o’r blaen, ond mi fydd o’n waeth rŵan.

“Fedri di’m byw ar dy lwyddiant. 'Da ni’n gwybod faint o lwyddiant mae Rob wedi ei gael, ond mae’n rhaid iddo fo neud pethau’n wahanol.”

Bydd Cymru yn teithio i Bratislava i herio Slofacia mewn gêm gyfeillgar arall, am 19.45 nos Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.