
Taith feicio yn codi dros £11,000 er cof am ddyn 'anhygoel' o'r Bala
Mae taith feicio er cof am ddyn “anhygoel” o'r Bala yng Ngwynedd wedi codi dros £11,000.
Bu farw Paul Hickson, oedd yn ddirprwy arweinydd “deinamig a chyfeillgar” Tîm Chwilio ac Achub De Eryri, yn 63 oed ym mis Gorffennaf 2023 wedi salwch byr.
Roedd yn aelod canolog o’r tîm hwnnw meddai ei frawd yng nghyfraith Rob Coldicott o bentref Whitburn yn Tyne and Wear.
Fe wnaeth Mr Coldicott drefnu'r daith feicio 254 milltir o Lundain i’r Bala er cof am ei frawd.
Yn wreiddiol o Lundain, roedd Paul Hickson wedi “cyffwrdd cymaint o fywydau,” meddai Mr Coldicott.
“Mae ychydig mwy o bobl yn cerdded o gwmpas heddiw diolch, yn rhannol, iddo fo â Thîm Chwilio ac Achub De Eryri,” meddai.

Fe deithiodd ‘Tour de Paul’ i rai o’r ardaloedd pwysicach i'w frawd yn ystod ei fywyd.
Dechreuodd y daith ger Felodrôm Herne Hill yn Llundain ar ddydd Mawrth, 28 Mai, gyda’r beicwyr yn seiclo heibio Stadiwm Emirates – gan fod Mr Hickson yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Arsenal.
fe wnaeth 30 o bobl gymryd rhan yn yr her, gyda saith ohonynt yn cyflawni’r daith yn ei chyfanrwydd.
Fe gafodd y daith ei chynnal dros gyfnod o bum niwrnod, gyda’r beicwyr yn seiclo oddeutu 50 milltir y diwrnod.
Roedd 24 o bobl wedi cymryd rhan yng nghymal olaf yr her gan feicio o’r Amwythig i’r Bala – a phob un ohonynt yn llwyddo i ddringo’r ddringfa serth dros fynyddoedd y Berwyn.
Cafodd y daith ei chwblhau ddydd Sadwrn, 1 Mehefin.

Dywedodd Rob Coldicott: “Cawsom ein harwain i mewn i’r Bala drwy ddilyn cerbyd Achub Mynydd, gan deithio heibio tŷ Paul ac i’r llyn.
Roedd aelodau’r tîm achub a thrigolion lleol wedi dathlu’r rheiny a wnaeth ddychwelyd mewn “modd hynod o emosiynol a swnllyd” gyda chlychau gwartheg a phob math o botiau a sosbenni’n cael eu taro.
“Y noson honno fe gawsom ni noson o ddathlu, sef y Bala Gala, gydag oddeutu 50 ohonom ni yn dathlu’r pum diwrnod anhygoel.”