Angen 'addasu arferion ffermio' medd ffermwr defaid o Geredigion
Mae ffermwr defaid o Geredigion wedi dweud bod angen addasu arferion ffermio mewn ffordd gyfrifol 'er mwyn yr amgylchedd'.
Mae Anwen Hughes yn ffermio 80 erw ar Fferm Bryngido y tu allan i Aberaeron gyda'i gŵr Rhodri.
Maent yn cadw o gwmpas 200 o ddefaid croes Llŷn a Llŷn ac mae Ms Hughes wedi bod yn ffermio ers 1995.
Dros y blynyddoedd, mae'r teulu wedi addasu'r ffordd y maen nhw'n rheoli'r tir a da byw er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â sefyllfa'r amgylchedd.
Erbyn heddiw, nid ydynt yn defnyddio gwrtaith ar y fferm ac mae gwrthfiotigau yn cael eu targedu at ddefnydd penodol.
Yn ei dro, mae hyn wedi lleihau costau mewnbwn yn sylweddol i fusnes y fferm, gan arwain at fwy o elw ac ôl troed ysgafnach.
Mae rhai o'r dulliau hyn yn cynnwys ŵyna yn hwyrach yn y flwyddyn a phrynu'r silwair yn ystod y gaeaf gan ei fod yn well ar gyfer rheoli'r lefel nitrogen, ffosfforws a photasiwm yn y pridd.
Dywedodd Ms Hughes: "Fel ffermwyr, rydyn ni’n cael profiad uniongyrchol o’r tywydd ac yn gweld sut mae llifogydd a sychder yn effeithio ar ein tir a’n da byw, sut y gall dirywiad bioamrywiaeth effeithio ar yr ecosystem gyfan a’r canlyniadau ehangach a all ddigwydd.
"Rhaid i ni ddod o hyd i gydbwysedd yn y modd rydyn ni’n cynhyrchu bwyd sy’n cynnwys llawer o faetholion – fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – tra hefyd yn gofalu am y tir lle rydyn ni’n tyfu’r bwyd hwnnw.
"Mae ffermio wedi datblygu mewn ffordd dda yma yng Nghymru, ond rhaid i ni ymdrechu i wneud yn well – er mwyn yr amgylchedd ond hefyd er mwyn diogelwch ein bwyd ein hunain."
Ychwanegodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae system Anwen yn enghraifft allweddol o sut mae cynhyrchu bwyd maethlon a chynnal a rheoli’r amgylchedd naturiol yn gadarnhaol yn mynd law yn llaw, gan adlewyrchu agweddau cadarnhaol ffermwyr Cymru sy’n defnyddio’r dull hwn o gynhyrchu.”