Newyddion S4C

Wyneb y Brenin Charles yn ymddangos ar arian papur

05/06/2024
Arian papur y Brenin Charles

Fe fydd wyneb y Brenin Charles III yn ymddangos ar arian papur o ddydd Mercher ymlaen.

Dyma fydd y tro cyntaf i wyneb y sofran newid am mai Elizabeth II oedd y cyntaf i ymddangos ar arian papur.

O ddydd Mercher, bydd y Brenin  yn ymddangos ar arian papur £5, £10, £20 a £50 – ond ni fydd unrhyw newidiadau eraill yn cael eu gwneud i’r arian. 

Mi fydd yr arian papur newydd yn cael ei gynnwys yn y cylchrediad ochr yn ochr ag arian papur sydd â phortread y Frenhines Elizabeth II.

Ac yn ôl canllawiau’r Aelwyd Frenhinol (Royal Household), bydd arian papur newydd yn cael ei gynhyrchu er mwyn cymryd lle hen bapurau os nad oes modd eu defnyddio rhagor, ac i gwrdd â’r galw, yn unig. 

Mae yna dros 4.6 miliwn o ddarnau o arian papur Banc Lloegr yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac mae'r rheiny’n werth tua £82 biliwn.

Image
Arian papur

Ymddangosodd y Frenhines Elizabeth II ar ddarnau o arian papur £1 am y tro cyntaf yn 1960. 

Mae Llywodraethwr Banc Lloegr wedi dweud bod cyflwyno’r arian papur newydd yn “foment hanesyddol.”

“Rydym yn falch iawn o fod yn cyhoeddi arian papur newydd y Brenin Charles,” meddai Andrew Bailey. 

Fe welodd y Brenin Charles yr arian papur newydd am y tro cyntaf ym mis Ebrill. Roedd o wedi synnu mai ef oedd yr ail erioed i ymddangos ar y papurau.

Bydd yr arian papur newydd yn cael eu cyflwyno mewn rhai o ganghennau penodol Swyddfa’r Bost ddydd Mercher, gyda miliynau yn rhagor ledled y DU am eu derbyn yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Lluniau: Banc Lloegr/PA Wire

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.