Achub dringwr ar ôl disgyn 40 troedfedd oddi ar glogwyn ar Ynys Môn
Cafodd dringwr a oedd wedi disgyn 40 troedfedd oddi ar glogwyn ei achub gan ddau fad achub o Ynys Môn.
Cafodd bad achub Caergybi a Bae Trearddur eu hanfon i Fae Gogarth ger Ynys Arw nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod dringwr wedi disgyn oddi ar y clogwyn.
Pan ddaeth y criw o hyd i leoliad y dringwr ar y creigiau, roedd 10 troedfedd yn unig uwchlaw'r môr.
Nid oedd y dringwr yn gallu symud oherwydd ei anafiadau difrifol, yn ôl y badau achub.
Roedd y dyn wedi disgyn wrth ddringo gyda’i ffrind, a lwyddodd i alw am y bad achub wedi iddo ddringo’n ôl i fyny’r clogwyn a dod o hyd i signal ffôn.
Yn fuan wedyn, anfonodd y badau achub eu haelodau i'r creigiau ble’r roedd y dyn yn gaeth, er mwyn rhoi triniaeth lleddfu poen iddo.
Erbyn 20:00 roedd gweddill criw bad achub Caergybi wedi cyrraedd y lleoliad ar gwch bob tywydd.
Yn y cyfamser, cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei alw i'r digwyddiad hefyd.
Dywedodd David Owens, Rheolwr Gweithrediadau Bad Achub Caergybi: “Roedd hon yn enghraifft wych o griwiau bad achub Caergybi a Bae Trearddur a gwirfoddolwyr gwylwyr y glannau Ynys Môn yn cydweithio mewn amgylchiadau technegol anodd iawn.”
Ychwanegodd: “Roedd y ddau ddringwr â chyfarpar da, ac yn gwybod beth i'w wneud pan ddigwyddodd y ddamwain.
“Dymunwn wellhad llwyr a buan i’r dyn, a hefyd cydnabyddiaeth i’w ffrind a wnaeth daith anodd er mwyn gallu galw am gymorth.”