Cyhuddo tri o redeg ar y cae yn ystod ffeinal Cwpan Ewrop
Mae tri o bobl wedi eu cyhuddo o redeg ar y cae yn ystod ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn Stadiwm Wembley nos Sadwrn.
Yn ôl Heddlu'r Met mae Yevhenii Lubnenko, 29, David Carneckij, 28, a bachgen 16 oed wedi eu cyhuddo o fynd ar y cae yn anghyfreithlon yn ystod y gêm sydd yn mynd yn groes i Adran 4 o'r Ddeddf (Troseddau) Pêl Droed.
Dyw'r bachgen 16 oed ddim yn gallu cael ei enwi am resymau cyfreithiol.
Mae'r ymchwiliad yn parhau yn achos dau berson arall sydd wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r un digwyddiad.