Newyddion S4C

Achos Neil Foden: 'Y ffocws wedi bod ar gadw pennaeth yn ddiogel yn lle plant’

Y Byd ar Bedwar 03/06/2024

Achos Neil Foden: 'Y ffocws wedi bod ar gadw pennaeth yn ddiogel yn lle plant’

Ym mis Mai eleni fe gafodd Neil Foden, un o benaethiaid mwyaf blaenllaw gogledd Cymru, ei ganfod yn euog o gamdrin pedwar o blant yn rhywiol rhwng 2019 a 2023.

Mewn rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar, mae Heddlu Gogledd Cymru yn disgrifio'r achos yn erbyn y prifathro adnabyddus fel un “hanesyddol” lle'r oedd yn “cuddio yng ngolau dydd”.

Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ers 1997, ac fe gafodd ei wneud yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes yn 2021.

Clywodd y llys fod athro wedi codi pryderon am y sefyllfa roedd Neil Foden yn rhoi ei hun ynddo wrth gynnal cyfarfodydd preifat gyda phlant nôl yn 2019.

Fe aeth â’r pryderon at Garem Jackson, oedd ar y pryd yn bennaeth addysg Cyngor Gwynedd.

Ond yn dilyn sgwrs gydag uwch swyddog lles y cyngor penderfynwyd peidio ag ymchwilio’n bellach gan nad oedd honiad o gam-drin plentyn.

Cafodd Mr Jackson gyngor i atgoffa Neil Foden o ymarfer da ac fe ddywedodd wrth y llys ei fod wedi gwneud hyn dros y ffôn.

Ymateb yn wahanol

Yn ôl un sydd wedi bod yn gweithio yn y maes diogelu plant ers dros 35 o flynyddoedd, fe allai Cyngor Gwynedd fod wedi ymateb yn wahanol er mwyn sicrhau fod popeth fel y dylai fod.

“Dwi'n meddwl bod y ffocws wedi bod ar gadw Neil Foden yn saff yn lle cadw plant yn saff,” meddai Chris O’Marah, cyn rheolwr llinell gymorth NSPCC Cymru.

“Mae’n edrych i fi bod ‘na lot o gaps wedi digwydd ac yn anffodus mae hynna yn gadael plant oedd yn fregus yn barod hyd yn oed yn fwy bregus.”

Image
Mae Chris O’Marah wedi gweithio fel rheolwr tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Cyngor Conwy.
Mae Chris O’Marah wedi gweithio fel rheolwr tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Cyngor Conwy

Gadawodd Garem Jackson ei rôl gyda Chyngor Gwynedd ym mis Medi 2023 am resymau personol. Fe wnaeth gadarnhau yn y llys nad oedd wedi cadw unrhyw nodiadau am y sgyrsiau a gafodd ynglŷn â Foden gyda’r athro, Neil Foden, na’r swyddog lles.

Mae Mr O’Marah yn dweud fod yr awdurdod wedi methu â dilyn canllawiau diogelu: “I fi mae ‘na gwestiynau i ofyn a ma’ ‘na bobol eraill bysa'n nhw wedi gallu cysylltu hefo i gal gafael ar fwy o wybodaeth, i neud penderfyniad saff.”

‘Neb wedi gofyn pam?’

Mae troseddau Foden yn dyddio rhwng 2019 a 2023. Yn y cyfnod yma roedd Foden, fel rhan o waith bugeiliol, yn gwahodd merched i’w swyddfa er mwyn sgwrsio am eu problemau.

Mae Mr O’Marah o’r farn nad yw cynnal sesiynau cwnsela fel arfer yn rhan o ddyletswyddau prifathro ysgol uwchradd. Dylai sesiynau o’r fath gael eu cynnal gan berson sydd â phrofiad a chymwysterau arbennig meddai.

Ychwanegodd: “Dwi yn synnu dros bum blynedd bod ‘na ddim byd arall wedi codi achos bod o’n gweld gymaint o blant ar ben ei hun a hefyd mynd â nhw allan yn ei gar.

“Pam ‘sa neb di gofyn pam, be mae’n neud hefo’r genod 'ma i gyd? Mae i weld fel bod ‘na ddigon o gyfleoedd wedi bod i bobol godi pryderon ond dwi’n gwybod dydi o ddim wedi digwydd.”

‘Afiach’


Does dim gwybodaeth wedi ei ryddhau am sut oedd Neil Foden yn adnabod y merched y gwnaeth e eu camdrin. Mae ei swydd fel pennaeth dwy ysgol yn codi cwestiynau mawr ynglŷn â'r bygythiad mae ef wedi peri i gannoedd o blant yn ystod ei yrfa.

Wrth siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar, rhannodd un rhiant ei phryderon am ddiogelwch pob plentyn fu dan ofal Neil Foden.

“Dwi’n disgusted, mae o yn afiach o beth i wneud,” meddai Christina Vize. Dywedodd ei fod yn sioc i’r gymuned i glywed bod person mewn swydd mor gyfrifol wedi troseddu yn y ffordd yma.

“Os oedd athrawon wedi codi consyrn yn 2019, pam dio heb gael ei delio hefo tan rŵan?”

Image
Roedd Christine Vize wedi “dychryn” pan glywodd bod Neil Foden wedi ei arestio.
Roedd Christine Vize wedi “dychryn” pan glywodd bod Neil Foden wedi ei arestio.

Adolygiad Annibynnol

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi bod y Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i edrych mewn i’r achos.

Yn ôl y cyngor byddant yn cydweithio gyda chyrff eraill er mwyn adnabod pa wersi sydd i’w dysgu a pha welliannau sydd angen eu cyflwyno. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch a llesiant plant bregus ac atal achosion tebyg rhag digwydd eto.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Bydd canfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Diogelu rhanbarthol ac i’r Llywodraeth ac adroddiad terfynol yn cael ei chyhoeddi.

“Fel Cyngor, byddwn yn ymateb yn syth i unrhyw argymhellion neu wersi sy’n cael eu hamlygu fel rhan o’r broses annibynnol a thrylwyr hon.”

Mewn ymateb dywedodd Mr Jackson fod ei feddyliau gyda dioddefwyr Foden a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ei weithredoedd. Ychwanegodd y bydd yn cydweithio’n llawn gyda’r Adolygiad Annibynnol.

Dywedodd: “Yn wyneb yr adolygiad hwn byddai’n amhriodol i mi wneud sylw pellach ar hyn o bryd, heblaw dweud bod gan ysgolion yng Ngwynedd weithdrefnau clir o fewn y cyngor er mwyn adrodd am bryderon diogelu trwy eu Swyddog Diogelu dynodedig i’r Gwasanaethau Plant. Mewn amgylchiadau prin lle codwyd pryderon yn uniongyrchol gyda mi, rhoddais wybod amdanynt i’r swyddog priodol a dilyn ei gyngor, fel y digwyddodd yn yr achos hwn.”

‘Dedfryd hir o garchar’

Bydd Foden yn cael ei ddedfrydu ar 1 Gorffennaf.

Ar ddiwedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 15 Mai, dywedodd y barnwr Rhys Rowlands y gallai Foden ddisgwyl dedfryd hir o garchar.

Ac mae Ms Vize yn croesawu sylwadau'r barnwr, ac yn gobeithio y bydd Foden yn cael cosb sylweddol.

“Pan mae e’n mynd i jail, dwi'm yn siŵr faint ddylia fe gael, ond severe. Achos hefo’r holl manipulation, yr holl dweud clwydda, dweud wrth y plant i ddweud clwydda. Mae o angen mynd lawr am oesoedd.”

Bydd Y Byd ar Bedwar - O Bennaeth i Bedoffeil ar S4C, Nos Lun 3 Mehefin am 20.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.