Y Gweilch yn cyrraedd gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig
01/06/2024
Mae’r Gweilch wedi cyrraedd gemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Fe enillodd y Gweilch o 33 i 29 yn erbyn Rygbi Caerdydd brynhawn Sadwrn.
Roedd angen iddynt ennill gyda phum pwynt, sef ennill â chais bonws, ac fe aeth canlyniadau yn gynharach yn y prynhawn o’u plaid nhw hefyd.
Fe wnaeth rhanbarthau Cymru wynebu ei gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn wrth i'r tymor ddirwyn i ben, gyda’r Scarlets yn curo'r Dreigiau o 32 i 15.