Presenoldeb mawr yr heddlu yn Llundain ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr
Fe fydd mwy na 2,000 o swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd yn Llundain ddydd Sadwrn ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.
Fe fydd protest wedi ei threfnu gan ymgyrchwyr asgell dde dan arweinyddiaeth Tommy Robinson hefyd yn cael ei chynnal yn y ddinas ddydd Sadwrn, yn ogystal â gwrth-brotest wedi ei threfnu gan Stand Up to Racism.
Mae amodau wedi cael eu gosod ar y ddwy brotest er mwyn sicrhau eu bod yn aros mewn mannau penodol ac mae'r Met wedi dweud y bydd yna "nifer sylweddol" o swyddogion ar ddyletswydd.
Fe fydd Borussia Dortmund yn wynebu Real Madrid yn stadiwm Wembley nos Sadwrn.
Mae pobl â thocynnau i'r gêm wed cael eu cynghori i adael digon o amser er mwyn cyrraedd y stadiwm.
Mae Real Madrid wedi ennill y gystadleuaeth 14 o weithiau, tra mai dim ond unwaith y mae eu gwrthwynebwyr, Borussia Dortmund, wedi ennill y gwpan, a hynny ym 1997.