Sir Benfro: Dyn 84 oed yn cael ei achub o’r môr
Mae dyn 84 oed wedi cael ei achub o’r môr ger Dinbych-y-pysgod ar ôl iddo gwympo oddi ar gwch bach i’r dŵr.
Cafodd dau bad achub eu lansio am tua 22:30 nos Wener ar ôl i Wylwyr y Glannau dderbyn galwad argyfwng ‘mayday’ gan gwch hwylio oedd wedi ei angori ym Mae’r Gogledd.
Dywedodd y gwasanaeth fod yr alwad yn nodi bod dyn 84 oed yn ymddangos fel pe bai mewn trafferthion mewn cwch bach wrth geisio cyrraedd ei gwch hwylio ar ôl bod ar y tir yn Ninbych-y-pysgod.
Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod nhw wedi dod o hyd i’r cwch hwylio a oedd yn wag ond eu bod wedi clywed galwadau am gymorth yn dod o’r dŵr.
Gyda chymorth gan aelod y cyhoedd oedd wedi gweld y dyn, daeth y criwiau o hyd iddo yn y dŵr yn gafael ar greigiau Santes Catrin.
Roedd wedi syrthio dros ochr y cwch oherwydd y cerrynt cryf a oedd yn symud ei gwch.
Cafodd ei godi ar fwrdd y cwch, ei gynhesu a'i archwilio i sicrhau nad oedd angen cymorth meddygol ar unwaith arno, cyn cael ei gludo i'r harbwr a'i adael gydag aelodau o dîm achub Gwylwyr Glannau Dinbych-y-pysgod i aros am ambiwlans.
Dywedodd y gwasanaeth fod yr aelod o’r cyhoedd yn sicr wedi achub bywyd y dyn.
Llun: RNLI Dinbych-y-pysgod