Gwynedd: Dyn ag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic cwad
Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic cwad yn Y Bermo nos Sadwrn.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi ymateb i alwad ar draeth Y Bermo am tua 19:08 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng beic cwad coch ac un gwyrdd.
Dywedodd y llu fod gyrrwr y beic coch wedi dioddef anafiadau difrifol.
Fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Stoke, yn Lloegr, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol, meddai’r llu.
Dywedodd PC Owain Roberts o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a oedd ar draeth Y Bermo tua 19:08 ar 18 Gorffennaf ac a allai fod â gwybodaeth a fyddai'n gymorth i'n hymchwiliad, i ddod ymlaen.
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a welodd y beiciau cwad coch a gwyrdd cyn y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi recordio un o'r cerbydau ar gamera dashbord, CCTV, camera drws neu drwy ffilm ffôn symudol.
"Rydym yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y beic cwad coch a'r beic cwad gwyrdd yn teithio ochr yn ochr yn y munudau cyn y gwrthdrawiad."