Carcharu tri dyn am ladrad treisgar ar feiciwr yn y brifddinas
Mae tri dyn wedi cael eu hanfon i garchar am gyfanswm o 16 mlynedd ar ôl eu cael yn euog o ladrad treisgar a ddigwyddodd ym mis Chwefror yng nghanol Caerdydd.
Cafodd Joshua Kelly, 30 oed o'r Barri, Tyrone Spriggs, 31 o Gaerdydd a Rhys Geisheimer, 28, hefyd o'r Barri, i gyd eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Kelly ddedfryd o 10 mlynedd o garchar tra bod Spriggs a Geisheimer ill dau wedi cael eu hanfon i garchar am dair blynedd.
Am tua 22:00 ar 16 Chwefror roedd dyn 63 oed yn beicio ar hyd Ffordd Tudor pan ddioddefodd ymosodiad gan dri dyn a'i llusgodd oddi ar ei feic, ymosod arno a dwyn ei feic.
Erbyn diwedd y mis cafodd y tri pherson eu harestio a'u cyhuddo o droseddau o ladrata ac ymosod.
Dywedodd y Ditectif gwnstabl Craig Pearce o CID y Tyllgoed: “Rwy’n falch bod y mater wedi’i ddwyn i’r Llys a bod y troseddwyr wedi’u dal a’u hanfon i’r carchar.
“Dangosodd y dioddefwr ddewrder aruthrol wrth ddod ymlaen ac mae gwneud hynny wedi ein galluogi i gadw’r gymuned leol yn ddiogel.
“Ni fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei oddef. Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal a bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dwyn gerbron y Llys i wynebu cyfiawnder.”