Newyddion S4C

'Recharge i fatri'r pen': Eden yn hybu iechyd meddwl gyda llwyfan ‘Sa Neb Fel Ti’

02/06/2024

'Recharge i fatri'r pen': Eden yn hybu iechyd meddwl gyda llwyfan ‘Sa Neb Fel Ti’

Mae’r grŵp pop Eden wedi dweud eu bod yn gobeithio gweld llwyfan newydd a gafodd ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn dychwelyd i'r ŵyl y flwyddyn nesaf.

Yn wahanol i’r tri phafiliwn ar faes yr Eisteddfod, roedd llwyfan ‘Sa Neb Fel Ti’ yn le i unigolion berfformio heb gystadlu.

Y nod oedd i bobl ifanc gael cyfle “i ddathlu nhw eu hunain a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw”.

Roedd y llwyfan wedi ei leoli yn ardal lles Nant Caredig ac yn rhan o brosiect Paid  Bod Ofn (PABO), a gafodd ei lansio gan Eden eleni.

Yn ôl y gantores Non Parry, sy'n aelod o'r grŵp, mae’r llwyfan wedi bod yn “llawn trwy’r wythnos”.

“Mae’r dair ohono ni wedi cystadlu ar y llwyfan yn yr Urdd ond weithia ddim yn cael llwyddiant achos doedda ni ddim yn sticio at y rheolau,” meddai.

“Felly oedda ni eisiau rwla lle oedd pobl yn gallu dod a just bod yn nhw eu hunain a gwneud unrhyw beth sy'n gwneud nhw’n hapus, sy'n gwneud nhw’n nhw.”

Image
Eden
Mae aelodau'r band Eden - Rachael Solomon, Non Parry ac Emma Walford - wedi sefydlu PABO i ddathlu hunaniaeth

Yn ôl ei chyd-aelod o’r grŵp, Rachael Solomon, roedd bob math o berfformiadau ar y llwyfan.

“Roedd pobl yn dod fyny unai yn deud jôc, neu chanu, dawnsio, neu just eistedd yna yn neud sŵn,” meddai.

Ychwanegodd y gyflwynwraig Emma Walford, sydd hefyd yn rhan o'r grŵp, nad oes angen cynulleidfa er mwyn perfformio.

“Mae ‘na ambell i berson ‘di mynd fyny a just bod mewn byd bach ei hunain, a mae hwnna’n braf i weld - dyna 'di pwrpas y gofod yna rili, just i chi’ch hun.”

‘Pwysig cael maes cynhwysol’

Mae'r dair yn gobeithio gweld y llwyfan yn dychwelyd i faes Eisteddfod yr Urdd 2025.

A hynny ynghŷd â’r iwrt tawel yn Nant Caredig, sydd wedi bod yn ddihangfa o'r bwrlwm i nifer eleni.

Dywedodd Rachael: “Mae’r maes yn gallu bod yn brysur, yn enwedig os 'da chi’n cystadlu mewn lot o bethau, neu mae’ch plant chi’n cystadlu mewn lot o bethau.

“‘Da chi just angen y pum munud ‘na i eistedd i lawr gyda neb yn siarad, neu mae ‘na rywun yna gewch chi siarad efo os ‘da chi eisiau siarad efo nhw, neu just eistedd yna mewn tawelwch. A be' sydd 'di bod yn lyfli ydy bod pobl just yn crwydro mewn, a weithia’ maen nhw’n cal nap bach.”

Yn ôl Non, a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth y llynedd, mae’n "bwysig" sicrhau bod maes Eisteddfod yr Urdd yn gynhwysol.

“Mae gen i awtistiaeth ac mae gen fy merch i awtistiaeth hefyd, so ma’ bod yn rwla fel hyn yn lyfli, ond mae’n gallu bod yn lot - mae ‘na lot o sŵn, lot o symud, lot yn mynd ymlaen,” meddai.

“Felly roedd o’n bwysig iawn i ni i greu ardal i bobl fel fi sy’n licio just cael saib bach a recharge i fatri’r pen.”

Partneriaeth newydd

Yn dilyn llwyddiant ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni, mae PABO wedi lansio partneriaeth newydd gyda’r Urdd.

Bwriad y bartneriaeth newydd yw hybu iechyd meddwl ymysg pobl ifanc.

“Mae agor y sgwrs am iechyd meddwl wedi bod yn rhywbeth sydd ‘di bod yn bwysig i’r dair ohono ni ers rhai blynyddoedd rŵan,” meddai Non.

“Mae bywyd yn gallu bod yn heriol pan ti’n tyfu fyny, mae 'na lot yn mynd ymlaen. Felly mae’n bwysig i agor y sgwrs a lleihau’r gorbryder yna, achos mae lot ohona ni’n teimlo'r un peth.”

Ychwanegodd Emma: “Un o'r gobeithion efo PABO ydi i beidio bod ofn i fod yn ti dy hun; 'da ni’n trio annog pawb i dderbyn eu hunain, dim ots pa oedran neu pa gyfnod 'da chi ynddo - gyda’r gobaith bod hynna’n mynd i helpu i leihau problemau iechyd meddwl yn y dyfodol.”

Bydd y digwyddiad cyntaf, sef ‘Penwythnos PABO’, yn cael ei gynnal yng Ngwersyll Pentre Ifan, Sir Benfro, ym mis Medi.

Dyma benwythnos i bobl 14 oed a hŷn i ganolbwyntio’n benodol ar iechyd a lles.

“‘Da ni'n gyffrous i fynd ati i guradu penwythnos arbennig law yn llaw efo’r Urdd a just ychwanegu at be' sydd wedi ei gyflawni penwythnos yma,” meddai Emma.

“‘Da ni wir yn gyffrous, fydd o’n sbeshal dw i’n meddwl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.