
Arwyr y gitâr: Offerynnau amlycaf rocars Cymru
Mae'n anodd gor-bwysleisio pwysigrwydd y gitâr yng ngherddoriaeth gyfoes Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Wedi i gitâr a gafodd ei defnyddio gan John Lennon dorri record mewn ocsiwn yn gynharach yr wythnos hon, dyma olwg ar rai o gitarau amlycaf y sin roc Gymraeg.
Hollie Singer - Adwaith
Adwaith yw un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru gyfan, ac maen nhw wedi siarad am eu balchder am berfformio yn y Gymraeg i gynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Yn ganolog i sŵn indie aml-ddimensiwn y band, mae gitâr Fender Jazzmaster y prif leisydd, Hollie Singer.

Gruff Rhys
Roedd Ffa Coffi Pawb a'r Super Furry Animals yn enwog am arbrofi gyda sŵn drwy wthio ffiniau eu gitarau trydan a chreu effeithiau anarferol gyda'u pedalau.
Ond fel artist unigol, mae Gruff yn fwy adnabyddus am ei ddefnydd o gitarau acwstig - gan gynnwys y gitâr glasurol hon, sydd â phatrwm unigryw i Gruff.

Elidir Glyn - Bwncath
Bwncath yw un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin roc Gymraeg, ac yn ganolog i'w sŵn roc anthemig mae gitâr acwstig Framus eu prif leisydd, Elidir Glyn.

Peredur ap Gwynedd - Pendulum
Mae Peredur yn teithio'r byd gyda'i fand, Pendulum, sydd yn cyfuno roc a drum & bass.
Ac i greu'r cymysgedd aml-genre hynny, mae'n troi at ei gitarau trydan PRS.

Tich Gwilym
Yn un o anfarwolion y sîn roc Gymraeg, Tich Gwilym yw ateb Cymru i Jimi Hendrix.
Ac yn was ffyddlon iddo am rhan hir o'i yrfa roedd ei yr gitâr Tokai Stratocaster, sydd wedi cael ei harddangos yn Amgueddfa Werin Cymru yn San Ffagan.

Dafydd Iwan
Mae Dafydd Iwan wedi bod yn lais i werin Cymru ers y 1960au, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ei weld yn perfformio gyda sawl gitâr acwstig.
Ond dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn dryw i'r gitâr acwstig Takamine.

Kizzy Crawford
Gyda dylanwadau jazz a soul ar ei cherddoriaeth, mae perthynas Kizzy Crawford â'i gitâr Martin yn guriad calon i bob un o'i chaneuon.

Meic Stevens
Gyda'i arddull unigryw, mae Meic Stevens yn llysgennad i gerddoriaeth Gymraeg ac i'r gitâr acwstig.
Dyma lun ohono yn chwarae gitâr Martin o'r rhaglen S4C, Meic Stevens: Dim Ond Cysgodion, o 2019.

Yws Gwynedd
Ers ei ddyddiau gyda Frizbee, mae Yws Gwynedd wedi cyffroi cynulleidfaoedd ledled y wlad gyda'i riffiau bachog, sydd yn aml yn cael ei chwarae ar ei Fender Telecaster blodeuog.