Medal newydd i ddynes 100 oed o'r de am ei gwaith yn yr Ail Ryfel Byd
Mae dynes 100 oed oedd yn arfer gweithio ar awyrennau Spitfire yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi derbyn medal newydd wedi iddi golli'r un wreiddiol a dderbyniodd am ei gwaith.
Bu Kathleen Clement yn aelod o Awyrlu Ategol y Merched (WAAF) ac yn gweithio yn RAF Loughborough yn ystod y rhyfel.
Gweithio fel peiriannydd oedd Ms Clement, a gafodd ei geni yn 1924.
Mae hi bellach yn byw mewn cartref gofal yng Nghastell-nedd. Bu'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar Spitfires, tasg hanfodol ar gyfer ymdrech rhyfel y wlad.
Wedi i'r rhyfel ddod i ben, derbyniodd Fedal Gwasanaeth Teyrngarwch am ei hymdrechion ar ran y Brenin Siôr VI, ond collodd y fedal yn ddiweddarach.
Yn ystod seremoni i'w gwobrwyo gan gyn-faer Castell-nedd Port Talbot, Chris Williams, cafodd Ms Clement ei synnu wrth iddi dderbyn medal newydd.
'Dagrau yn ei llygaid'
Finola Pickwell, swyddog cyswllt lluoedd arfog rhanbarth Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, drefnodd y fedal newydd ar ôl clywed am y golled wrth siarad â Ms Clement yn dilyn ei henwebiad ar gyfer Gwobr y Maer.
Dywedodd Ms Pickwell: “Roedd dagrau yn ei llygaid a dywedodd fod y fedal yn golygu mwy iddi na phe bai wedi cael oriawr aur solet. Roedd yn foment emosiynol."
Sefydlwyd y WAAF ar 28 Mehefin 1939 gan y Brenin Siôr VI ac erbyn 1945 roedd 250,000 o fenywod wedi ymuno â'r gwasanaeth, gan ymwneud â mwy na 110 o wahanol grefftau a chefnogi gwaith yr Awyrlu Brenhinol ledled y byd.
Roedd y WAAF yn rhan hanfodol o ymdrech ryfel yr awyrlu ac yn dangos y cyfraniad y gallai menywod ei wneud i luoedd arfog Prydain.
Yn dilyn y rhyfel, ailenwyd y WAAF yn Llu Awyr Brenhinol y Merched ar 1 Chwefror 1949.
Llun: Cyngor Castell-nedd Port Talbot / PA