Newyddion S4C

Carcharu athrawes am lofruddio ei chariad cyn claddu ei gorff mewn gardd

30/05/2024
Fiona Beal

Mae athrawes ysgol gynradd wedi ei charcharu am o leiaf 20 mlynedd ar ôl iddi gyfaddef i lofruddio ei chariad a chladdu ei gorff yn eu gardd.

Newidiodd Fiona Beal, 50 ei phle hanner ffordd drwy ei hachos llys yn yr Old Bailey fis diwethaf.

Roedd hi wedi llofruddio Nicholas Billingham, 42, rhwng mis Hydref a Thachwedd 2021 gan ddefnyddio rheolau cyfyngiadau Covid-19 fel esgus i gwblhau cuddio ei gorff.

Ar ddiwedd y gwrandawiad dedfrydu ddydd Iau, rhoddodd y Barnwr Mark Lucraft KC ddedfryd oes i Beal gan ddweud wrthi: “Ar ôl symud a chladdu’r corff yn yr ardd fe wnaethoch chi ddweud celwydd wrth ei fam, ei ffrindiau niferus, ei deulu i gyd a’ch un chi am beth wnaethoch chi a ble'r oedd o.”

Mewn datganiad dioddefwr a ddarllenwyd i’r llys, fe wnaeth mam Mr Billingham, Yvonne Valentine, ddisgrifio Beal fel “drygioni pur.” 

Disgrifiodd mynd i gael diod gyda hi ar 23 Ragfyr, 2021, heb wybod mai dim ond ychydig droedfeddi i ffwrdd ohoni oedd corff ei mab.

Disgrifiodd y barnwr y peth fel “gweithred ddideimlad” ar ran Beal, “wedi ei chuddio fel sgwrs achlysurol a diod cyn y Nadolig”.

Clywodd y llys bod Beal wedi trywanu ei phartner i farwolaeth “mewn gwaed oer” cyn claddu ei gorff.

Cafodd corff Nicholas Billingham ei ddarganfod bedwar mis a hanner ar ôl iddo gael ei weld ddiwethaf.

Cafodd yr athrawes, o Stryd Moore, Northampton, ei harestio ym mis Mawrth 2022 ar ôl i’r heddlu ddarganfod y corff.

Cafodd swyddogion fforensig a thimau chwilio arbenigol eu hanfon i'r cyfeiriad cyn i'r darganfyddiad gael ei wneud.

Clywodd y llys bod yr heddlu wedi dod o hyd i ddyddiadur oedd yn cofnodi ei gweithredoedd.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.