Newyddion S4C

Tywysoges Cymru ddim i ddychwelyd i'w dyletswyddau fis nesa'

30/05/2024
Tywysoges Cymru

Ni fydd Tywysoges Cymru yn dychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus ar gyfer seremoni filwrol yn Llundain fis nesaf.

Mae dyfalu wedi bod a fyddai'r Dywysoges Catherine yn ddigon iach i gymryd rhan yn y seremoni eleni.

Mae’r digwyddiad seremonïol yn cael ei gynnal ar 8 Mehefin yn Llundain, y penwythnos cyn dathliadau 'Trooping the Colour', ac fel cyrnol a phennaeth y Gwarchodlu Gwyddelig, y Dywysoges Catherine fyddai’n derbyn y saliwt fel arfer.

Nid yw'r dywysoges wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cyhoeddus ers iddi ddatgelu bod ganddi ganser a'i bod yn cael cemotherapi ataliol yn gynharach eleni.

Ym mis Chwefror, roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau fod disgwyl iddi fod yn bresennol, ond fe gafodd y cadarnhad ei ddileu oddi ar eu gwefan yn ddiweddarach.

Fe fydd yr Is-gadfridog James Bucknall yn dirprwyo ar gyfer y digwyddiad, ac yn derbyn y saliwt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.