Newyddion S4C

Gwella hygyrchedd ar faes yr Eisteddfod yr Urdd

29/05/2024

Gwella hygyrchedd ar faes yr Eisteddfod yr Urdd

Yn wlyb dan droed, ond y stiwardiaid yn gweithio'n galed i sicrhau bod pawb yn gallu symud o gwmpas y Maes yn ddiffwdan.

Ond mae'r gwaith hynny wedi dechrau ers misoedd a'r Urdd yn penodi Swyddog Hygyrchedd ers Eisteddfod y llynedd yn Llanymddyfri.

"Ni'n neud gwyl yn ganol caeau, yn ganol Cymru 'da glaw, 'da tywydd mor wael a ni wastad yn neud mor gymaint a phosib i neud e'n hygyrch.

"Pob flwyddyn, ni'n moyn mynd yn well."

Rhagor o lwybrau cadarn, tai bach arbennig a gwella'r adnoddau i bobl fyddar.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r Urdd wedi bod yn gwrando ar adborth gan bobl i neud hi'n fwy hwylus i fynd o gwmpas y Maes.

Y gobaith yw bod yr adborth hwnnw wedi gwella profiad defnyddwyr.

"Dw i'n meddwl mae gwahaniaeth mawr eleni. Dw i rili wedi sylwi maen nhw wedi meddwl am newid pethau a rili wedi gwrando ar y bobl sydd wedi cwyno y llynedd.

"Mae'r tai bach wedi newid, mae paths ym mhob man a mae fe'n lot haws i mynd on and off. Mae e lot gwell.

"Mae lle penodol yn y Pafiliwn i fi mynd mewn cadair olwyn neu sgwter. Maen nhw rili wedi meddwl am bethau a wedi newid e.

" 'Dan ni'n credu'n gry bod yr Urdd i bawb a mae'r Maes yn gorfod neud yn siwr bod o'n barod i bawb hefyd. Dyna pam 'dan ni 'di gweithio mor galed eleni."

Parhau i wrando fydd yr Urdd er mwyn sicrhau bod yr wyl yma yn agored i bawb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.