Bachgen 15 oed yn yr ysbyty wedi ymosodiad gan gi XL Bully
Mae bachgen 15 oed yn yr ysbyty wedi ymosodiad gan gi XL Bully ger Rhymni.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i gyfeiriad ym mhentref Pontlotyn ym mwrdeistref sirol Caerffili brynhawn Mawrth wedi adroddiadau o ymosodiad gan gi.
Cadarnhaodd y llu fod swyddogion heddlu wedi mynychu cyfeiriad ar Heol y Fferm yn y pentref am tua 15:20 ynghyd â swyddogion arfog a'r Gwasanaeth Ambiwlans.
Fe gafodd bachgen 15 oed ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ond y gred yw nad yw ei anafiadau yn rai sydd yn peryglu nac yn newid bywyd.
Ychwanegodd y llu fod y ci, XL Bully, wedi cael ei gofrestru gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a'i fod wedi cael ei ddifa gan filfeddyg.
Daeth rheolau newydd ar gŵn XL Bully i rym yn ddiweddar yng Nghymru a Lloegr.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei fod yn drosedd i fod yn berchen ar XL Bully o 1 Chwefror oni bai bod gan berchnogion yng Nghymru a Lloegr ffurflen sy'n eu heithrio.