Newyddion S4C

AS Gorllewin Abertawe sydd wedi ei wahardd gan y Blaid Lafur yn cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad

28/05/2024
Geraint Davies AS

Mae Geraint Davies, sydd wedi’i wahardd o’r Blaid Lafur ers mis Mehefin y llynedd ar ôl honiadau o aflonyddu rhywiol, wedi dweud ei fod yn rhoi’r gorau i’w swydd yn yr Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd AS Gorllewin Abertawe ddydd Mawrth "nad yw’n gallu” sefyll fel ymgeisydd Llafur oherwydd ei waharddiad.

Tynnodd Llafur y chwip oddi ar Mr Davies fis Mehefin diwethaf tra’n aros am ymchwiliad i adroddiadau o “honiadau hynod ddifrifol o ymddygiad cwbl annerbyniol”.

Roedd hefyd yn wynebu honiadau iddo “frolio” am ddod â gweithwyr rhyw i’r Senedd am ddiodydd.

Mae Mr Davies, sydd wedi bod yn eistedd fel aelod annibynnol, yn gwadu'r honiadau.

Mewn datganiad ar X, Twitter gynt, ysgrifennodd: “Ar ôl cael fy atal flwyddyn yn ôl yn dilyn honiadau dienw a gafodd eu postio yn y cyfryngau, rwy’n siomedig nad wyf eto wedi cael gwrandawiad gan y Blaid Lafur a’r cyfle i glirio fy enw.

“O ganlyniad, ni allaf sefyll fel ymgeisydd Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol sydd i ddod."

Dywedodd hefyd ei bod “wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael gwasanaethu pobol Gorllewin Abertawe fel eu haelod seneddol am y 14 mlynedd ddiwethaf”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.