Etholiad 24: Y Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio eu hymgyrch yng Nghymru
Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, yn lansio ymgyrch etholiad cyffredinol y blaid yng Nghymru ddydd Mercher.
Bydd yn ymuno ag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds yn Nhrefyclo ym Mhowys i osod yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel "cynllun achub ar gyfer ffermwyr"
Mae disgwyl iddo addo £1 biliwn o arian ychwanegol ar gyfer cyllideb amaethyddiaeth.
Y bwriad fyddai helpu’r sector i wella cynhyrchiant, hyfforddiant a thechnoleg, meddai'r blaid.
Ni enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw seddi yng Nghymru yn etholiad San Steffan y tro diwethaf yn 2019.
Aelod Seneddol olaf y blaid yng Nghymru oedd Ms Dodds, a gafodd ei hethol mewn isetholiad yn 2019.Ond fe gollodd y sedd dri mis yn ddiweddarach pan gynhaliwyd yr etholiad cyffredinol.
Mae hi bellach yn cynrychioli'r blaid yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio cipio seddi'r Blaid Geidwadol ym Mrycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, sydd yn etholaeth newydd ar gyfer etholiad 2024.
'Ffermwyr ar eu gliniau'
Dywedodd Syr Ed Davey bod y Blaid Geidwadol wedi gadael ffermwyr Cymru i lawr.
“Mae’r Llywodraeth Geidwadol hon wedi gadael etifeddiaeth o fethiant o'r Gwasanaeth Iechyd i ffermio ym Mhrydain.
“Yng Nghymru, mae teuluoedd a phensiynwyr yn wynebu argyfwng costau byw ac anhrefn economaidd y Ceidwadwyr yn San Steffan.
“Ffermwyr Prydain yw’r gorau yn y busnes, ond mae esgeulustod y Ceidwadwyr wedi gadael gormod o ffermwyr ar eu gliniau. Mae Rishi Sunak yn cymryd ffermwyr yn ganiataol."
“Mae’r etholiad hwn yn rhoi’r cyfle oes i Gymru ddangos y drws i’r Ceidwadwyr, drwy bleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol a fydd yn hyrwyddo’r gorau o ffermio Cymru.
'Pobl eisiau newid'
Dywedodd Ms Dodds bod yr etholiad cyffredinol yn gyfle i greu newid.
“Mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru hanes hir a balch o roi cymunedau lleol yn gyntaf a byddwn yn ymgyrchu’n galed i amddiffyn ein cefn gwlad, rhoi mwy o gefnogaeth i’n cymunedau gwledig a’n ffermwyr, a rhoi diwedd ar ddiffyg deintyddion ar draws rhannau helaeth o’r wlad.”
Mae Ms Dodds wedi galw o’r blaen ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun taliad teg ar ôl i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol gael ei ohirio tan 2026.
Polisïau'r pleidiau eraill ar ffermio
Dywedodd Prif Weinidog y DU ac arweinydd y Blaid Geidwadol, Rishi Sunak ym mis Chwefror eleni y byddai'n "gwneud bob dim" i gefnogi ffermwyr Cymru yn dilyn protestiadau yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Mae'r blaid hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn cynyddu cyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl i ffermwyr.
Yn gynharach eleni dywedodd gweinidog cysgodol ffermio, Daniel Zeicher y byddai llywodraeth y Blaid Lafur yn lleihau dibyniaeth ar fewnforio bwyd o dramor a gwella taliadau i ffermwyr yn dilyn Brexit.
Ychwanegodd y byddai yn sicrhau y bydd hanner y bwydydd mewn ysbytai, ysgolion a charchardai o Brydain.
Mae Plaid Cymru yn dweud y byddant yn cyflwyno Bil Amaeth Cymreig a fyddai'n rhoi pwyslais ar ddatgarboneiddio, cynnyrch cynaliadwy a bioamrywiaeth well.
Bydd y blaid hefyd yn rhoi taliad er mwyn cynnig "sefydlogrwydd economaidd gwell" i'r sector.
Llun: Jacob King / PA