Newyddion S4C

Jonathan Edwards AS yn dweud na fydd yn sefyll eto

28/05/2024
jonathan edwards

Mae Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto yn sedd newydd Caerfyrddin.

Mewn neges ar ei dudalen Facebook dywedodd ei fod yn “dymuno’r gorau i’w olynydd” yn y sedd ac nad oedd “yn gallu disgwyl i fod adref lle’r ydw i’n perthyn”.

“Ers i’r Etholiad Cyffredinol gael ei alw'r wythnos diwethaf, rwyf wedi cymryd yr amser i ystyried a fyddaf yn rhoi fy enw gerbron," meddai.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad i’m hannog i wneud hynny, fodd bynnag, ar ôl myfyrio’n ddwfn, rwyf wedi penderfynu ei bod yn bryd imi roi’r gorau i San Steffan.”

Yr ymgeisywr yn yr etholaeth ar hyn o bryd yw Ann Davies (Plaid Cymru), Simon Hart (y Ceidwadwyr), Martha O'Neil (Y Blaid Lafur), Nicholas Paul Beckett (Democratiaid Rhyddfrydol), Bernard Holton (Reform), a Will Beasley (y Blaid Werdd). 

'Maddeuant'

Mae etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi ei chynrychioli gan Mr Edwards ers 2010, ond roedd yn eistedd fel aelod annibynnol ar ôl iddo adael Plaid Cymru.

Cafodd ei wahardd o'r blaid ar ôl iddo ymosod ar ei wraig ym mis Mai 2020. Penderfynodd gamu yn ôl o'r blaid ym mis Awst 2022 ar ôl i'r arweinydd ar y pryd, Adam Price, alw arno i roi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol.

Yn ei ddatganiad dywedodd Jonathan Edwards nad oedd am sefyll eto yn y sedd "ar sail dial" ac y byddai ei dad "a roddodd ei fywyd i Blaid Cymru" ac a fu farw dwy flynedd yn ôl yn "annog maddeuant yn lle hynny".

Mae'n ymuno â saith aelod seneddol arall yng Nghymru sydd ddim yn sefyll eto.

Mae Kevin Brennan (Llafur, Gorllewin Caerdydd) Wayne David (Llafur, Caerffili), David Jones (Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd), Christina Rees, (Llafur, Castell-nedd), Dr Jamie Wallis (Ceidwadwyr, Pen-y-bont), a Hywel Williams (Plaid Cymru, Arfon) hefyd wedi dweud eu bod yn camu o'r neilltu.

Bydd Beth Winter (Llafur, Cwm Cynon) hefyd yn gadael ar ôl peidio a chael ei dewis i sefyll.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.