Newyddion S4C

Keir Starmer yn addo ‘cyfeiriad clir – nid anhrefn ac ansefydlogrwydd’

27/05/2024
Keir Starmer

Mae arweinydd y Blaid Lafur Keir Starmer wedi addo “cyfeiriad clir” yn hytrach nag “anhrefn ac ansefydlogrwydd’” yn ei araith fawr gyntaf yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol.

Daw ei araith wedi i’r Ceidwadwyr lansio polisi newydd dros y penwythnos – gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc – a gafodd ymateb cymysg.

Dywedodd Keir Starmer mai ei nod oedd darparu “sicrwydd i bobl sy’n gweithio, busnesau a chymunedau” ar ôl "troelli diddiwedd Llywodraeth Geidwadol”.

“Mae gan y Prif Weinidog gynllun newydd bob wythnos, strategaeth newydd bob mis, ac addewid etholiadol newydd bob dydd,” meddai.

“Dydw i ddim yn cellwair. Mae’r holl droelli rownd a rownd yma yn symbolaidd o anhrefn ac ansefydlogrwydd. 

“Rydych chi wedi gweld hynny eto dros y dyddiau diwethaf. 

“Er mwyn talu am y polisi gwasanaeth cenedlaethol hwn byddai rhaid gwario arian a fyddai yn mynd at fuddsoddiad lleol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

‘Manwl’

Ymatebodd Rishi Sunak i’r araith drwy ddweud: “Mae angen ar ein gwlad wleidyddion a fydd yn gweithredu’n feiddgar ar ran ein gwlad, nid yn malu awyr.”

Fe wfftiodd cadeirydd y Torïaid Richard Holden araith Syr Keir fel un “heb ddim polisi, dim sylwedd, a dim cynllun”.

Ond mae gweinidogion Ceidwadol yn parhau i ddod dan bwysau i roi manylion am gynllun gwasanaeth cenedlaethol Mr Sunak.

Ni wnaeth gweinidog y Swyddfa Dramor Anne-Marie Trevelyan ddiystyru'r posibilrwydd y gallai rhieni wynebu erlyniad pe bai eu plant sy'n oedolion yn gwrthod cymryd rhan yn y cynllun.

Pan ofynnwyd iddi ar Times Radio a fyddai rhieni’n wynebu erlyniad pe bai eu plant 18 oed – sy’n oedolion yn gyfreithlon – yn gwrthod ymuno â’r gweithgaredd milwrol neu wirfoddol, dywedodd: “Dydw i ddim yn mynd i ysgrifennu’r polisi manwl nawr. Dyna beth fydd pwrpas rhaglen waith y comisiwn brenhinol. ”

Nid oes disgwyl i’r polisi £2.5 biliwn gael ei weithredu’n llawn tan 2028-29 os bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.