Geraint Thomas yn gorffen y Giro d'Italia yn y trydydd safle
Mae Geraint Thomas wedi gorffen yn drydydd yn ras Giro d’Italia.
Fe orffennodd y Cymro 10 munud a 24 eiliad y tu ôl i’r enillydd, Tadej Pogačar o Slofenia.
Daniel Martínez o Colombia gorffennodd yn yr ail safle, gyda bwlch o 28 eiliad dros Thomas.
Roedd y ras dair wythnos yn cyrraedd ei therfyn yn Rhufain, gyda Tim Merlier o Wlad Belg yn cipio’r fuddugoliaeth yn y cymal olaf.
Roedd Thomas wedi mwy neu lai sicrhau ei le ar y podiwm yn dilyn cymal 20 ar ddydd Sadwrn, y diwrnod yr oedd hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 38.
Daw hyn wedi iddo orffen yn yr ail safle yn y Giro d’Italia y llynedd.
Mae Thomas wedi awgrymu'r wythnos yma mai’r Giro eleni gallai fod y ras Grand Tour olaf iddo fod yn arweinydd ei dîm, Ineos Grenadiers.
Inline Tweet: https://twitter.com/INEOSGrenadiers/status/1794769811509293483
Mae Thomas wedi ei enwi yng ngharfan ei dîm ar gyfer y Tour de France, sydd yn cychwyn ddiwedd mis Mehefin, ond mae’n debyg mai rôl gynorthwyol y bydd ganddo yn y ras honno yn hytrach na chystadlu am fuddugoliaeth yn y dosbarthiad cyffredinol.
Mae hefyd wedi datgan ei ddymuniad i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Paris ddiweddarach eleni.
Fe arwyddodd Thomas gytundeb am ddwy flynedd ychwanegol gyda thîm Ineos Grenadiers ar ddechrau’r tymor, fydd yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2025.
Llun: X/@INEOSgrenadiers