Eamonn Holmes a Ruth Langsford i ysgaru
Mae’r cyflwynwyr teledu Eamonn Holmes a Ruth Langsford wedi cyhoeddi eu bod nhw yn bwriadu ysgaru, medd llefarydd ar ran y ddau.
Mae’r ddau, sydd wedi cyflwyno rhaglen This Morning gyda’i gilydd, wedi bod yn briod ers 2010 ac mae ganddyn nhw fab.
Dywedodd y llefarydd fod y cwpwl wedi “cadarnhau bod eu priodas ar ben ac yn y broses o ysgaru”.
Fe ymunodd Holmes, 64 oed, â GB News yn 2021 ac mae Langsford, hefyd yn 64 oed, yn banelwraig gyson ar Loose Women ar ITV.
Fe ddechreuodd y ddau gyd-gyflwyno This Morning yn 2006 gan adael y sioe yn 2021.
Mae gan Holmes dri o blant o’i briodas i Gabrielle Holmes, a briododd yn 1985.
Derbyniodd Holmes OBE am ei wasanaeth i ddarlledu yn 2018.
Llun: PA