Newidiadau i restr werdd teithio rhyngwladol yn dod i rym
Mae cyfres o newidiadau wedi eu cyflwyno i'r rhestr oleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol.
Bellach, mae Ynysoedd Balearig Sbaen, Malta ac Ynys Madeira, Portiwgal ymhlith y lleoliadau sydd wedi symud i restr werdd teithio rhyngwladol.
Golygai hyn na fydd rhaid i deithwyr sy’n dychwelyd i’r DU o’r ardaloedd hyn wynebu cyfnod o hunan ynysu.
Mae Llywodraeth y DU yn cadw llygad ar 14 o’r gwledydd ar y rhestr werdd, sef gwledydd sydd â’r risg fwyaf o symud o wyrdd i oren ar fyr rybudd.
Dyma'r rhestr lawn o wledydd sydd ar y rhestr werdd:
- Anguilla
- Antigua a Barbuda
- Ynysoedd Baleares (Ibiza, Menorca, Maiorca a Formentera)
- Barbados
- Bermuda
- Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
- Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
- Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
- Ynysoedd Cayman
- Dominica
- Grenada
- Madeira
- Malta Montserrat
- Pitcairn
- Henderson
- Ynysoedd Ducie ac Oeno
- Ynysoedd Turks a Caicos
Er hynny, mae awdurdodau yn Sbaen wedi penderfynu cyflwyno rheolau newydd i deithwyr o Brydain fydd yn golygu bod angen iddyn nhw brofi eu bod wedi cael eu brechu yn llawn erbyn Covid-19 neu gyflwyno prawf negyddol am yr haint cyn cael eu croesawu i’r wlad.
Mae chwe gwlad – Gweriniaeth Dominican , Eritrea, Haiti, Mongolia, Tunisia ac Uganda – wedi symud i’r rhestr goch.
Er y newidiadau, neges Llywodraeth Cymru o hyd yw peidio teithio tramor ar gyfer wyliau eleni.
Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae ein neges yn glir – dyma’r flwyddyn i gael gwyliau gartref. Rydym yn galw ar bobl i deithio tramor dim ond os oes ganddynt resymau hanfodol.
“Mae pob un ohonom wedi aberthu cymaint er mwyn rheoli’r pandemig yng Nghymru, ac nid ydym am weld y feirws yn dod eto – neu amrywiolynnau newydd yn dod i’r wlad – o ganlyniad i bobl yn teithio dramor.”
Llun: _parrish_ (CC)