Newyddion S4C

Gwarchodfa natur wedi profi fandaliaeth dros 150 o weithiau mewn dwy flynedd

25/05/2024
Difrod - Gwarchodfa Natur Cynffig

Mae fandaliaid wedi targedu gwarchodfa natur dros y ddwy flynedd diwethaf, gan achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod, yn ôl gweithwyr yno.

Mae’r fandaliaeth yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, yn ardal Pen-y-bont, yn cynnwys difrod i ffensys, giatiau, peiriannau parcio a chuddfan adar, sydd wedi costio oddeutu £25,000 i drwsio.

Mae ffensys y warchodfa wedi eu difrodi mewn dros 150 o achlysuron dros y cyfnod.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio yn dilyn adroddiad o ddifrod.

Mae’r warchodfa, sydd wedi ei leoli mewn ardal o dwyni tywod rhwng Porthcawl a Phort Talbot, yn cynnwys amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, yn ogystal â llyn mwyaf yr ardal, Pwll Cynffig.

Image
Gwarchodfa Natur Cynffig
Mae Gwarchodfa Natur Cynffig wedi ei leoli yn un o’r ardaloedd twyni tywod mwyaf yn Ewrop

Ar hyn o bryd mae’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig, sydd wedi bod yn berchen ac yn rheoli’r safle ers iddo gael ei drosglwyddo o ofal Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn 2019.

Fodd bynnag, dywed gweithwyr bod angen i fandaliaeth barhaus a “digalon”, sydd bellach wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd, gael ei stopio.

Dywedodd Chris Jones, sydd yn gweithio fel warden yn y warchodfa: “Mae’r ardal hon yn arbennig iawn ac mae’n ganolbwynt i fywyd gwyllt lleol. Mae yna lawer o wahanol blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi'u lleoli yma yn unig ac ychydig o leoedd eraill yn y wlad.

“Dechreuodd y problemau i ni dros ddwy flynedd yn ôl pan oedd angen i ni gael mwy o anifeiliaid pori ar y safle, ac i wneud hynny roedd angen i ni osod ffens i fyny gan nad ydych chi eisiau anifeiliaid mawr yn mynd i fyny ar y ffordd.

Image
 Gwarchodfa Natur Cynffig - difrod
Difrod i baneli cuddfan adar yn y warchodfa

“Cawsom ganiatâd ar gyfer y ffens ond o fewn dyddiau iddo godi fe ddechreuon ni gael ei dorri i lawr. Mae wedi cael ei dorri tua 152 o weithiau hyd yma sy’n golygu ein bod ni’n mynd trwy lawer o atgyweiriadau yn gyson am gost uchel iawn.

'Torcalonnus'

 “Mae’n rhwystredig iawn i ni gan fod y ffensys yn cael eu gosod yno i gadw’r anifeiliaid i mewn ac mae digon o fynediad i gerddwyr a gatiau llwybr ceffylau o hyd na fyddai’n rhaid i chi gerdded yn bell i’w cyrraedd.

“O ran difrod arall maen nhw hefyd wedi malu pob panel unigol hyd at uchder canol ein cuddfan adar, yn ogystal â difrodi’r mesurydd parcio yn y maes parcio pellaf i’r pwynt lle nad oes gennym ni’r arian i’w atgyweirio neu rhoi un arall i mewn.

“Mae’n dorcalonnus gweld bod cymaint o barch at gadwraeth y safle, ac rydyn ni’n teimlo bod y bobl sy’n dod yma i dorri’r ffensys yn ei wneud oherwydd nad ydyn nhw’n ei hoffi.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Ar Ebrill 9, derbyniodd Heddlu De Cymru adroddiad o ffensys wedi’u difrodi yng Ngwarchodfa Natur Cynffig. 

“Mae'r mater yn parhau i gael ei ymchwilio. Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2400114056.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.