Newyddion S4C

Dŵr Cymru yn annog pobl i ‘osgoi mynd mewn i’r môr’ ar ôl i ddŵr gwastraff ollwng ger Ogwr

ITV Cymru 26/05/2024
Aberogwr

Mae pobl yn cael eu hysbysu i osgoi mynd i'r dŵr ar ôl i garthffosiaeth ollwng ger Aberogwr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio “nad yw'r llygrydd wedi'i adnabod yn bendant, ond mae'n llwyd gydag arogl carthion".

Dywedodd Dŵr Cymru wrth bobl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr fod "gollyngiad bach o dan y ddaear" o waith trin dŵr gwastraff gerllaw, gan gynghori i bobl beidio â mynd i mewn i'r dŵr nes iddo gael ei brofi'n lân.

Dywedodd y cwmni wrth gwsmeriaid yn flaenorol, "mae hwn yn fater cymhleth iawn", ac "ein nod yw datrys y mater cyn gynted â phosibl".

Yn ymddiheuro am y gollyngiad, mae Dŵr Cymru wedi ceisio tawelu meddwl pobl leol: “Ar ôl asesu ein tanciau a’n hisadeiledd ar y safle bellach, rydym wedi nodi gollyngiad bach o dan y ddaear yn un o danciau trin y safle.”

Ychwanegodd y cwmni: "Dŵr daear yw hwn yn bennaf, ond mae'n cynnwys elfen fach o ddŵr gwastraff ac rydym nawr yn gweithio i atal y gollyngiad a'i atal rhag mynd mewn i gwrs y dŵr cyfagos."

"Rydym yn cynnal asesiadau ecolegol dyddiol i sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys y traeth yn Ogwr", meddai.

Mewn datganiad dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod Dŵr Cymru wedi “gosod mesurau atal llygredd ar draws y sianel sydd wedi cael ei heffeithio arni ger Afon Ogwr, er mwyn ceisio atal y dŵr llygredig".

“Gan y gallai’r llygredd fod yn effeithio ar y dŵr ymolchi i lawr yr afon, rydym wedi datgan ‘sefyllfa annormal’, fel sydd wedi’i ddiffinio gan y Rheoliadau Dŵr Ymolchi, ac mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gosod arwyddion ar draeth Aberogwr i hysbysu pobl o’r llygredd i fyny'r afon yn yr afon," meddai.

“Bydd hyn yn aros yn ei le nes na fydd perygl llygredd mwyach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.