Newyddion S4C

Eisteddfod yr Urdd: Sut i gyrraedd y maes ym Maldwyn

26/05/2024

Eisteddfod yr Urdd: Sut i gyrraedd y maes ym Maldwyn

Eleni, mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar fferm Mathrafal ger Meifod yn Sir Drefaldwyn.

Mae mwy nag erioed o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu eleni, meddai'r trefnwyr. 

Mae 100,454 wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl ym Maldwyn yr wythnos nesaf. 

Pe bai bod chi'n cystadlu, cefnogi neu yn mynd i'r i grwydro'r maes, gallwch deithio i’r wŷl ar fws, trên neu mewn car.

Dyma sut i gyrraedd maes yr eisteddfod eleni.

Teithio mewn Ceir

Mapiau digidol

Wrth ddefnyddio unrhyw ap neu declyn megis ‘Sat Nav’, Mapiau Google, ‘Waze’, neu ‘What 3 Words’ defnyddiwch SY22 6HT fel y côd post i’r cyrchfan.

Cyfarwyddiadau o gyfeiriad y de i Meifod (cyfeiriad y Trallwng) 

Teithiwch yr heol orllewinol A458 allan o’r Trallwng, tuag at Ddolgellau. Teithiwch trwy Lanfair Caereinion ac yna trowch i’r dde ar yr A495. 

Cyfarwyddiadau o gyfeiriad y gogledd/dwyrain (cyfeiriad Croesoswallt) 

Dilynwch heol y de A483 allan o Wastateir, tuag at y Trallwng. Trowch i’r dde ar y A495, tuag at Lansanffraid-ym-Mechain. Parhewch ar yr heol trwy bentref Meifod tan eich bod yn cyrraedd arwyddion swyddogol yr Eisteddfod.

Meysydd parcio

Mae holl barcio’r Eisteddfod am ddim ac yn bellter byr ar droed i’r maes. Mae’r meysydd parcio yn agored o 06:30 ond mae’r maes yn agored i’r cyhoedd am 07:45.

Cofiwch nodi, unwaith rydych yn agosáu at faes yr Eisteddfod, rhaid dilyn yr arwyddion swyddogol melyn i gyrraedd meysydd parcio.

Fe fydd parcio ar gael i ddeiliad bathodynnau glas hefyd. Bydd arwyddion ar gyfer sut i gyrraedd y maes parcio penodol hwn.

Trafnidiaeth Cyhoeddus 

Trên i’r Trallwng

Gallwch ddal trên fewn i orsaf y Trallwng, ond bydd yn rhaid i chi deithio ymhellach trwy fodd arall o drafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi i gyrraedd Meifod. Os rydych yn dod o’r de neu orllewin Cymru, bydd yn rhaid dal trên hyd at Amwythig ac yna i fyny at y Trallwng.

Bysiau o’r Trallwng i Meifod 

Mae bysiau Trafnidiaeth Cymru yn ymadael o'r Trallwng, ddydd Mawrth 28 o Fai. Mae’r daith tua 25 munud o hyd o'r Trallwng i Feifod. 

Mae’r amseroedd yn amrywio bob dydd felly rhaid cynllunio eich taith yn ofalus. Rhwng dau a phedwar bws y dydd sy'n teithio o’r Trallwng i Feifod.

Beiciau

Mae modd parcio eich beic yn yr ardal cadw ger y brif fynedfa i’r maes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.