Newyddion S4C

Adroddiad yn awgrymu diwygio'r canllawiau ar gyflymder 20mya

24/05/2024
Ken Skates 20mya

Mae adroddiad newydd gan dîm sydd wedi bod yn edrych ar y ffordd y mae'r terfyn cyflymder 20mya wedi cael ei fabwysiadu yng Nghymru wedi awgrymu y dylid diwygio'r canllawiau ar rai ffyrdd.

Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Adroddiad Terfynol Tîm Adolygu 20mya.

Dywedodd awduron yr adroddiad nad oes angen ailasesu pob ffordd yng Nghymru gan bod terfyn cyflymder o 20mya ar bron pob ffordd drefol yng Nghymru erbyn hyn.

"Dim ond nifer fach fydd yn cael eu hailasesu, oherwydd derbynnir yn gyffredinol mai 20mya yw'r cyflymder priodol ar y rhan fwyaf o ffyrdd C a ffyrdd diddosbarth, er y gall amgylchiadau lleol amrywio."

Ffyrdd preswyl gwledig

O'r rhai y byddai modd eu hamrywio o dan unrhyw drefn newydd, dywedodd yr adroddiad y gellid ailosod terfynau 30mya ar ffyrdd preswyl gwledig lle nad oes cyfleusterau gerllaw, ffyrdd ag ychydig iawn o dai ar eu hyd, ac ar ffyrdd â thai ar un ochr yn unig, lle nad oes angen croesi'r ffordd...

"Gellid gosod terfynau o 30mya hefyd ar ffyrdd strategol sy'n goridorau pwysig i fysiau neu ffyrdd strategol ar gyfer cludiant lle ceir tystiolaeth bod amserau teithio wedi cynyddu'n sylweddol."

Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai modd defnyddio terfynau 30mya ar isffyrdd mewn ardaloedd diwydiannol lle nad oes fawr o draffig cerddwyr a beicwyr, neu ardaloedd wedi'u hamgylchynu gan dir agored. 

'Dryswch'

Dywed yr adroddiad bod y canllawiau presenol yn aneglur ac wedi creu cryn ddryswch:

"Nid yw'r canllawiau presennol yn esbonio'n ddigon clir yr egwyddor graidd ynghylch defnyddwyr ffyrdd bregus yn cymysgu'n aml mewn ffordd a gynlluniwyd â cherbydau modur, ac mae hynny wedi arwain at gryn ddryswch."

Mae'n ymddangos hefyd bod ceisio dod o hyd i gonsensws barn wrth ofyn am ymatebion i holiadur wrth greu'r adroddiad wedi bod yn dalcen caled: 

"Mae'r farn am y meini prawf presennol ac unrhyw feini prawf ychwanegol yn amrywio ac yn aml yn mynd yn groes i'w gilydd, felly mae'n anodd dod i unrhyw gasgliadau pendant un ffordd neu'r llall ar sail yr ymatebion i'r holiadur."

'Cydbwysedd'

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Mr Skates: "Mae'r tîm adolygu wedi edrych ar sut mae awdurdodau priffyrdd wedi gweithredu'r newid polisi 20mya ledled Cymru. 

"Mae'r adroddiad yn cydnabod yr angen am gydbwysedd rhwng pryderon diogelwch a manteision posibl cyflymderau uwch ar brif ffyrdd strategol neu brif ffyrdd allweddol. 

"Mae'n awgrymu bod angen canllawiau diwygiedig i ddarparu gweithdrefn systematig i asesu ffyrdd ar gyfer addasiadau i'r terfyn cyflymder. 

"Dylai hyn egluro egwyddorion craidd wrth gydbwyso cysondeb â hyblygrwydd, gan gydnabod cymhlethdod penderfyniadau ynghylch terfynau cyflymder."

Bydd y canfyddiadau o'r adroddiad newydd yn cael eu defnyddio i osod diwygiadau i'r canllawiau fydd yn cael eu cyhoeddi cyn ganol yr haf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.