Newyddion S4C

'Pethau eraill i'w gwneud': John Redwood i roi'r gorau i wleidydda

24/05/2024
John Redwood

Mae cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr John Redwood A.S., wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau i'w sedd yn San Steffan.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Redwood ddydd Gwener na fyddai'n cymryd rhan yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

"Rwyf wedi penderfynu peidio â rhoi fy enw ymlaen yn yr etholiad sydd i ddod. Mae gen i bethau eraill yr hoffwn eu gwneud," meddai.

Roedd Mr Redwood, sy'n aelod o'r Blaid Geidwadol, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ddwy flynedd rhwng Mai 1993 a Mehefin 1995.

Fe gafodd gryn sylw yn y wasg am geisio canu anthem genedlaethol Cymru mewn cynhadledd wleidyddol ar ddechrau ei gyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol yn 1993.

Fe ymgeisiodd ddwyaith i arwain y Ceidwadwyr yn y 1990au ond bu'n aflwyddiannus.

Mae wedi bod yn Aelod Seneddol dros Wokingham ers 1987. 

"Mae wedi bod yn fraint cael cynrychioli Wokingham mewn naw Senedd," meddai.

"Rwyf wedi seilio llawer o’m hymgyrchoedd ar safbwyntiau a glywais ar garreg drws ac a ddarllenais yn fy e-byst. Rydym wedi cyflawni pethau da gyda’n gilydd ar gyfer ein cymuned leol a’r genedl ehangach."

Ychwanegodd Mr Redwood y byddai yn "parhau i gyfrannu at ddadleuon am bolisi cyhoeddus".

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.