Newyddion S4C

Y cogydd Bryn Williams wedi gwerthu ei fwyty Odette's yn Llundain

24/05/2024
Bryn Williams

Mae'r cogydd o Ddinbych, Bryn Williams, wedi gwerthu ei fwyty poblogaidd yn Llundain.

Ar ôl 16 mlynedd, bydd Odette's ym Mryn y Briallu yn cau ei ddrysau am y tro olaf o dan ei arweinyddiaeth ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Williams: "Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gweithio gyda fi yn Odette's dros y blynyddoedd ac i'n holl westeion gwych, y mae llawer ohonynt wedi bod gyda ni o'r cychwyn cyntaf."

Ychwanegodd Mr Williams ei fod yn "gyffrous" i gael treulio mwy o amser yng Nghymru.

"Rwyf bellach yn gyffrous i dreulio mwy o amser yn fy Nghymru enedigol, ac yn arbennig gogledd Cymru, yn parhau i weithio ar ein bistro ym Mhorth Eirias, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd cyffrous eraill o gwmpas yr ardal honno a thu hwnt," meddai.

Yn wreiddiol o ogledd Cymru, mae Bryn wedi treulio llawer o'i fywyd yn gweithio yn Llundain.

Yn 1997, fe ddechreuodd weithio o dan y cogydd enwog Marco Pierre White yn The Criterion, cyn symud ymlaen i Le Gavroche, ac yna i'r Orrery. 

Yn 2006, fe ddaeth yn brif gogydd Odette’s cyn dod yn berchen ar y busnes.

Llun: Bryn Williams

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.