Trychineb Hillsborough: Amddiffyn y sefydliad 'yn parhau'n broblem'
Mae Aelodau Seneddol wedi rhybuddio bod angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i osgoi methiannau ar ôl trychinebau fel Hillsborough.
Mae adroddiad sydd yn edrych ar alwadau am 'Ddeddfwriaeth Hillsborough', a gafodd ei gyhoeddi gan Bwyllgor Senedd San Steffan ar Hawliau Dynol (JCHR) ddydd Gwener wedi canfod bod “amddiffyn y sefydliad” yn parhau i fod yn broblem.
Ychwanegodd yr adroddiad argymhelliad i Lywodraeth y DU ystyried cyflwyno dyletswydd gonestrwydd statudol i bob corff cyhoeddus.
Dywedodd ymgyrchwyr eu bod nhw eisiau deddfwriaeth newydd i atal profiad teuluoedd y 97 cefnogwr Lerpwl fu farw yn nhrychineb Hillsborough yn 1989 rhag digwydd eto.
Byddai'r ddeddfwriaeth honno yn cynnwys dyletswydd gonestrwydd cyfreithiol, cyllid i deuluoedd mewn cwestau ac ymchwiliadau, ac eiriolwr cyhoeddus annibynnol.
Cafodd galwadau am y ddeddfwriaeth eu hailadrodd yn dilyn adroddiad yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.
'Angen dysgu gwersi'
Dywedodd cadeirydd y JCHR, Joanna Cherry KC bod teuluoedd y rhai a fu farw yn Hillsborough wedi gorfod aros "degawdau" am gyfiawnder.
"Mae gan bob un ohonom ar y pwyllgor hawliau dynol barch ac edmygedd enfawr at ddewrder teuluoedd y rhai a fu farw yn Hillsborough a'r rhai gafodd eu heffeithio. Yr wythnos hon rydym hefyd wedi gweld sut y bu'n rhaid i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig fynd trwy frwydr debyg.
“Mae’n gywilyddus bod eu poen wedi’i waethygu gan yr oedi a’r rhwystredigaeth a wynebwyd ganddynt wrth iddynt chwilio am y gwir, a’r degawdau y bu’n rhaid iddynt aros am gyfiawnder.
“Hyd yn oed cymaint o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae gwersi i’w dysgu o hyd i sicrhau nad yw’r methiannau hyn yn cael eu hailadrodd."
Ychwanegodd: “Rydym yn galw ar y llywodraeth i wneud yn siŵr bod mesurau cadarn ar waith, sy’n rhoi cymaint o wybodaeth sy'n bosib i deuluoedd.
“Rydym hefyd am weld mesurau ehangach i sefydlu diwylliant o fod yn agored er mwyn sicrhau nad yw’r gwir yn cael ei guddio rhag y cyhoedd a’r rhai sy’n cymryd rhan.”
Yn 2023, mewn ymateb i adroddiad gan gyn-esgob Lerpwl, y Parchedig James Jones, penderfynodd y llywodraeth i beidio â chyflwyno deddfwriaeth.
Yn lle hynny fe wnaethant ymrwymo i Siarter Hillsborough, gan addo gosod budd y cyhoedd uwchlaw ei enw da ei hun.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer eiriolwr cyhoeddus annibynnol i gefnogi'r rhai gafodd eu heffeithio gan drychinebau.
'Gwrthdroi diwylliant'
Dywedodd y pwyllgor ei fod wedi clywed gan dystion a oedd yn teimlo bod gwersi “dal heb gael eu dysgu” o drychineb Hillsborough a bod rhai o’r materion yn parhau i gael effaith mewn gwrandawiadau mawr eraill - fel ymchwiliad Arena Manceinion - ac mewn cwestau sy’n cael eu cynnal yn ddyddiol.
Dywedodd y cyfreithiwr Elkan Abrahamson, un o gyfarwyddwyr ymgyrch Hillsborough Law Now: “Mae’n teimlo fel ein bod ni ar drothwy.
“Yr wythnos hon yn unig rydym wedi gweld Syr Brian Langtsaff yn yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn mynnu dyletswydd gonestrwydd statudol ac wrth i bob wythnos fynd heibio yn Ymchwiliad Swyddfa’r Post mae’r gorchudd eang yn cael ei ddatgelu.
“Mae’n rhaid i ni wrthdroi’r diwylliant hwn lle mae swyddogion cyhoeddus yn dweud celwydd. Pa mor anodd yw dweud y gwir?
“Mae’n rhaid stopio nawr cyn i fwy o fywydau gael eu difetha. Rhaid i’r llywodraeth nesaf roi deddfwriaeth dyletswydd gonestrwydd ar frig eu rhestr."
Llun: Aaron Chown / PA