'Y wên hardd, y chwerthin bendigedig': Teyrnged i ferch 10 oed a fu farw mewn tirlithriad
Mae teulu merch 10 oed a fu farw wedi i fwd lithro mewn tywydd garw yng ngogledd Lloegr ddydd Mercher wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Leah Harrison ger pentref Carlton-in-Cleveland yn dilyn glaw trwm yn Sir Efrog.
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Efrog bod un person wedi marw am 13:15 ddydd Mercher.
Dywedodd ei theulu ei bod yn ferch “hapus a byrlymus” a freuddwydiodd am fod yn bêl-droediwr yn nhîm Lloegr.
“Y wên hardd, y chwerthin bendigedig, y jôcs gwirion,” meddai’r deyrnged.
“Ni fyddi di fyth yn cael dy anghofio, ferch fach.
“Dyma gyfle i ti ledaenu dy adenydd a gorffwys ym mharadwys.”
Dywedodd llefarydd ar ran Tîm Achub Mynydd Cleveland bod “meddyliau’r gwirfoddolwyr achub mynydd gyda theulu a ffrindiau’r person a fu farw yn ystod cyfnod mor drist”.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Heddlu Gogledd Sir Efrog na chafodd neb arall eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Cafodd yr ardal ei chau drwy gydol y prynhawn a gofynnwyd i aelodau'r cyhoedd osgoi mynd yno.