Carcharu dyn am droseddau rhyw yn erbyn plant
Mae dyn o Rhondda Cynon Taf wedi’i garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Fe gafwyd Adam John, 31 oed o Bontypridd, yn euog o un achos o dreisio plentyn a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Cafodd ei ddedfrydu i saith blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth. Fe fydd hefyd yn treulio oes ar gofrestr troseddwyr rhyw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Phillips ei fod eisiau canmol “dewrder anhygoel” y rhai aeth at yr heddlu a’i fod yn gobeithio y bydd yn annog dioddefwyr troseddau rhyw eraill i wneud yr un fath.
“Mi fyddwn yn eich coelio ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod troseddwyr yn cael eu herlyn.”
Dywedodd hefyd bod yna “ddim ots” pa mor bell yn ôl y digwyddodd y troseddau.