'Peidiwch rhoi fyny ar eich breuddwydion': Y bariton Steffan Lloyd Owen gam yn nes at ei freuddwyd
'Peidiwch rhoi fyny ar eich breuddwydion': Y bariton Steffan Lloyd Owen gam yn nes at ei freuddwyd
“Y neges syml ydi peidiwch â rhoi fyny ar y breuddwydion ‘na.”
Dyna neges y bariton o Fôn, Steffan Lloyd Owen, wrth iddo ddychwelyd i'r byd canu proffesiynol ar ôl cyfnod o dair blynedd yn y maes adeiladu.
Ym mis Medi, fe fydd Steffan, 28, yn mynd i'r Swistir am gyfnod o 10 mis i hyfforddi fel artist ifanc gyda Stiwdio Opera Rhyngwladol Zurich.
Ond doedd y daith ddim yn hawdd i gyrraedd y cyfnod cyffrous nesaf yn ei fywyd.
Ag yntau yn ganwr brwd yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, gan ennill yn yr Eisteddfodau cenedlaethol, fe aeth Steffan yn ei flaen i astudio yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion.
"Digwydd bod y flwyddyn o'n i'n graddio, dyma Covid yn digwydd felly oedd genna fi llwyth o glyweliadau i fynd ymlaen i neud cwrs meistr ond yn anffodus, nes i dynnu allan oherwydd Covid, a nes i ffeindio fy hun adra yn neud dim byd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Yn diwadd, dyma Dad yn deud 'Steff, gwranda, ma' rhaid i chdi neud rwbath' felly o'n i'n ffodus iawn, ges i waith efo Dad yn y maes adeiladu a dwi dal yna heddiw.
"Dwi'n ffodus iawn i ddeud y gwir 'mod i wedi cael y gwaith adeiladu a dwi'n falch ohono fo."
Er ei fod wedi mwynhau ei gyfnod yn y maes adeiladu, roedd Steffan yn parhau yn awyddus i ddychwelyd i'r byd canu proffesiynol.
Ond yn sgil diffyg gwaith, mae Steffan wedi bod yn gweithio yn y maes adeiladu ers tair blynedd bellach.
"Pan nes i ddechra yn y maes construction, o’n i’n meddwl ‘mond ryw fyr-dymor fysa hi ond dwi dal yma heddiw," meddai.
"Y problem ydi o’n i’n cael gwaith canu, ond dim byd digon cyson i gadw fi ffwrdd o’r maes construction felly o’n i’n gweld fy hun yn y maes construction wedyn yn fyr-dymor efo’r contract opera, nôl i’r construction a mae hi wedi bod yn ôl ag ymlaen fel ‘na ers y tair blynadd dwytha.
"Mae’r maes canu wedi pigo fyny ond ddim digon felly dyna pam dwi dal ar y maes construction."
Mae'r Tŷ Opera yn Zurich yn gyfle arbennig i gantorion ifanc i gael cyfle ar lwyfan rhyngwladol a phroffesiynol y byd opera. Mae cantorion yn cael y cyfle i gael rhan unigol yn hytrach na bod yn rhan o'r corws.
"Dwi'n gobeithio cael rhannu'r llwyfan efo megastars y byd opera mewn ffordd. Dwi 'di cael rhan mewn pedwar neu bump cynhyrchiad yn barod felly fydd hi'n 10 mis eithaf intense," meddai.
Mae Steffan yn teimlo yn ffodus iawn o allu cael y cyfle i fynd i'r Swistir i wireddu ei freuddwyd.
"Dwi'n teimlo yn hynod o freintiedig o gael y cyfle i fynd allan i weithio yn y Zurich Opera Studio a dwi'm yn meddwl fod o wedi hitio fi tan yn ddiweddar 'ma pa mor ffodus o'n i i gael lle a dwi'n hynod o gyffrous o gael cynrychioli Cymru," meddai.
"Yn bwysiach oll, cael cynrychioli Ynys Môn oherwydd dwi'n gwybod pa mor brin mae'r cyfleoedd yma'n dod, yn enwedig ym Mhrydain a dwi'n hynod o falch o gael fy nhroed i fewn yn Ewrop wan oherwydd fan 'na ma'r gwaith ar hyn o bryd."
Cyhoeddodd y Cwmni Opera Cenedlaethol ym mis Ebrill eu bod yn wynebu toriadau sylweddol ac felly’n gorfod newid y ffordd mae’n gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol ariannol sefydlog.
Mae’r WNO yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol i staff sydd ddim yn perfformio, tra bod yna drafodaethau yn parhau gydag undebau er mwyn ail-negodi cytundebau aelodau’r Corws a’r Gerddorfa.
Mae hyn hefyd yn pryderu Steffan, yn ogystal â'r effaith ar gwmnïau opera llai.
"Y gwir ydi, heb y cwmnïau bach, fydd na ddim dyfodol i'r opera oherwydd mae'r cyfleoedd 'dan ni fel cantorion ifanc yn gael i gyd yn dod o'r cwmnïau llai 'ma," meddai.
"Dwi 'di bod yn ffodus iawn o weithio efo Opera Cymru, efo Opera Canolbarth Cymru, y ddau gwmni sydd wedi colli lot fawr o bres 'wan, ag hebddyn nhw, nhw sy'n bwydo'r cwmnïau mawr 'ma fel Opera Cenedlaethol Cymru sydd wedi cael mwy o doriadau yn ddiweddar.
"Heb y cyfle a'r access ar gyfer y cwmnïau llai 'ma, fydd 'na ddim cantorion yn y dyfodol a fel 'dan ni'n gweld, mae'r toriadau yn lladd y cwmnïau llai 'ma felly fydd hi'n anodd iawn i'r cantorion ifanc sy'n gadael colegau wan i fynd ymlaen efo'r gyrfa oherwydd y diffyg cyfleoedd."
Mae Steffan bellach yn dad i Edi, ac mae ei berspectif ar fywyd wedi newid ers hynny.
"I fod yn onasd, cyn dechra' teulu, o'n i'n hapus braf yn be' o'n i'n neud yn y gwaith adeiladu a cael contracts canu bob yma ac acw, ond ers bod yn Dad, ma'r perspectif wedi newid dwi'n teimlo," meddai.
"Ma' genna fi fwy o bwrpas i fynd a neud y gwaith canu wan. Dwi'n neud o er mwyn rywun arall, a ma' hynna yn rwbath sy'n mynd i helpu fi pan fyddai yn Zurich ar ben fy hun, fyddai'n cofio bo' fi'n neud o er mwyn rywun arall.
"Y gobaith ydi os ga i yrfa dda, geith fy nheulu i fywyd da."
Neges Steffan i unrhyw un sy'n wynebu sefyllfa debyg fyddai i ddyfal-barhau.
"O'n i'n meddwl fod y cyfle yma wedi mynd ers dipyn, ers sawl blwyddyn, ers i fi adael coleg, o'n i'n teimlo fod fy nghyrfa canu i yn mynd i ddod i ben, ag o'n i'n teimlo fatha bod 'na ddim gobaith rili i fynd yn ôl idda fo," meddai.
"Ond ma' 'na foment i bawb yn y byd 'ma a dwi'n credu yn fawr iawn mewn ffawd - os mae o i fod, mae o i fod. Felly y peth mwya syml i ddeud ydi dal i fynd, cadw'r pen 'na yn uchal a peidiwch â gadael fynd o'r freuddwyd 'na achos mi neith o ddod yn wir un diwrnod."