Newyddion S4C

Angen 'gwella'r broses' o benderfynu ceisio adfywio cleifion difrifol wael

23/05/2024
Claf

Mae angen gwella'r broses o benderfynu a ddylid ceisio adfywio rhai cleifion sy'n ddifrifol wael mewn ysbytai, meddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. 

Mewn adroddiad ddydd Iau, dywedodd y corff nad ydyn nhw'n sicr bod y broses o wneud penderfyniadau  adfywio cardiopwlmonaidd (‘Do Not Attempt Cardiopulmonary Resuscitation’ - DNACR) yn unol â pholisi Cymru ar gyfer cleifion sydd heb y gallu i wneud y penderfyniad eu hunain.

Triniaeth achub bywyd mewn argyfwng yw adfywio cardiopwlmonaidd, neu CPR, sy'n cael ei defnyddio pan fydd calon ac ysgyfaint person yn stopio gweithio.

Mae AGIC yn dweud bod hi’n bwysig fod gweithwyr gofal iechyd yn trafod gyda chleifion a ddylid eu hadfywio neu beidio – a dylai hynny gael ei gofnodi ar ddu a gwyn. 

Mae’r ffurflenni yn rhoi gwybod i glinigwyr na ddylid dechrau CPR pan fydd unigolyn yn marw, ac mae wedi'i dylunio fel ei bod yn hawdd i weithwyr gofal iechyd gwneud penderfyniadau cyflym ynglŷn â thriniaeth. 

Ond roedd arolygiad o 280 o’r ffurflenni wedi dangos fod “anghysonderau” o ran safon y wybodaeth oedd yn cael ei gofnodi, gyda rhai yn anghyflawn neu’n anodd eu darllen. 

Cyfathrebu

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod angen cryfhau safon y cyfathrebu sydd rhwng timau gofal iechyd gyda chleifion a’u hanwyliad ynglŷn â phenderfyniadau o'r fath, er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y rhesymau dros bob penderfyniad. 

Dylai trafodaethau o’r fath gael eu cynnal yn gynharach yn ystod salwch pobl yn hytrach na’u cynnal at ddiwedd eu hoes, fel bod pobl yn cael digon o wybodaeth ac yn deall beth fydd yn digwydd, ychwanegodd yr adroddiad. 

Roedd bron i hanner y bobl gafodd eu holi wedi dweud nad oedden nhw'n teimlo fod eu hanghenion yn cael eu hystyried, tra oedd y rhan fwyaf wedi dweud na chafodd eu hanghenion o ran cyfathrebu eu trafod o gwbl.

Roedd bron un rhan o dair o weithwyr gofal iechyd hefyd wedi dweud nad oedd trefniadau o ran cyfathrebu dymuniadau  cleifion rhwng aelodau staff yn “effeithiol o gwbl,” a roedden nhw’n galw am storfa electroneg i Gymru gyfan ar gyfer ffurflenni DNACPR.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Mae'n amlwg bod deall dymuniadau claf ar ddiwedd ei oes yn elfen hanfodol o ofal da, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ofalus i gynnwys yr adroddiad hwn a chanfyddiadau cyffredinol ein hadolygiad. 

“Rwyf hefyd yn disgwyl i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ystyried yr adborth gan aelodau o staff a'r cyhoedd a nodir drwy'r adroddiad, er mwyn ystyried sut y gall yr adborth hwn lywio gwelliannau i'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.