Chwyddiant wedi gostwng i'w lefel isaf ers bron i dair blynedd
Mae cyfradd chwyddiant wedi gostwng i 2.3% ym mis Ebrill, sydd yn agos iawn at darged Banc Lloegr o 2%.
Mae'r gyfradd wedi gostwng 0.9% o'i gymharu â'r mis diwethaf.
Yn y misoedd diwethaf mae chwyddiant, sy’n mesur pa mor gyflym y mae prisiau’n codi, wedi bod yn arafu yn y DU.
Fe gyrhaeddodd y lefel uchaf erioed sef 11.1% ddiwedd 2022.
Dyma'r ffigwr isaf o ran chwyddiant ers bron i ddwy flynedd a hanner.
Mae disgwyl i chwyddiant sy'n gostwng arwain at ostyngiad mewn lefelau cyfraddau llog yn hwyrach yn y flwyddyn.
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd y llefarydd ar ran Trysorlys y DU: "Mae’r economi yn troi cornel. Mae twf cryf y chwarter hwn a chwyddiant yn agos at y targed, sy’n ein galluogi i dorri trethi i’r gweithiwr cyffredin £900 y flwyddyn.”