Ymchwiliad Swyddfa'r Post: Disgwyl i Paula Vennells roi tystiolaeth
Mae disgwyl i gyn-bennaeth Swyddfa’r Post, Paula Vennells, gael ei holi ddydd Mercher am ei rôl yn sgandal Horizon.
Bydd Ms Vennells, a oedd yn brif weithredwr yn y cwmni rhwng 2012 a 2019, yn rhoi tystiolaeth dros gyfnod o dridiau yn ystod Ymchwiliad Swyddfa'r Post.
Mae sawl is-bostfeistr wedi cyhuddo Ms Vennells o guddio’r gwir. Mae’r ymgyrchydd a’r cyn is-bostfeistres Jo Hamilton wedi galw arni i ddweud y gwir.
Cafodd mwy na 700 o is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam rhwng 1999 a 2015 ar ôl i feddalwedd cyfrifo diffygiol Horizon ddangos fod arian ar goll o'u cyfrifon post.
Fe barhaodd erlyniadau i ddigwydd o dan wyliadwriaeth Ms Vennells er gwaethaf y ffaith bod y barnwr, Syr Anthony Hooper, wedi dweud wrthi dro ar ôl tro “nad oeddent yn gwneud synnwyr”.
Fo oedd cadeirydd y cynllun ar gyfer pobl oedd yn credu eu bod wedi cael eu herlyn ar gam gan Swyddfa’r Post.
Dyw Ms Vennells ddim wedi siarad am ei rôl yn y sgandal.
Ond mae hi eisoes wedi ymddiheuro am y “dinistr a achoswyd i is-bostfeistri a’u teuluoedd”.
Dywedodd dogfen a gafodd ei chyflwyno gan ei chyfreithwyr cyn gwrandawiad rhagarweiniol yn 2021 ei bod wedi ei “haflonu’n fawr” gan y dyfarniadau yn yr achosion yn erbyn yr ymgyrchwyr Alan Bates a Jo Hamilton. Fe wnaeth yr achosion hynny ganfod bod system Horizon yn ddiffygiol.
Fe gafodd Ms Vennells ei henwi ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2019, gan dderbyn CBE ym mis Tachwedd y flwyddyn honno.
Ond fe roddodd yr anrhydedd yn ôl yn wirfoddol wedi i ddeiseb ddenu mwy na 1.2 miliwn o lofnodion.
Am beth fydd Paula Vennells yn cael ei holi?
Mewn datganiad a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Ms Vennells, dywedodd y byddai’n “parhau i gefnogi a chanolbwyntio ar gydweithredu â’r ymchwiliad”.
Clywodd yr ymchwiliad ei bod ar fin datgelu 50 o ddogfennau ychwanegol i gwnsel yr ymchwiliad ddydd Gwener.
Mae disgwyl i Ms Vennells gael ei holi am ei gwybodaeth am y gallu i gael mynediad rhithiol i system Horizon, tystiolaeth ffug honedig a roddwyd gan dystion arbenigol yn ystod erlyniadau Swyddfa'r Post, ac ymddygiad ymchwilwyr y sefydliad.
Mae’n bosib y bydd hi hefyd yn cael ei holi a oedd hi’n credu bod yna unrhyw achosion o gamweinyddu cyfiawnder yn ystod ei chyfnod yn y swydd ar ôl i’r prif swyddog ariannol, Alisdair Cameron, ddweud wrth yr ymchwiliad nad oedd hi'n credu hynny.
Mae cannoedd o is-bostfeistri yn dal i aros am iawndal llawn er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod y rhai a gafodd eu heuogfarnau wedi'u dileu yn gymwys i gael iawndaliadau o £600,000.