Newyddion S4C

Gobaith a gwersi i'w dysgu wedi twf yn nifer siaradwyr Gaeleg Yr Alban

Newyddion S4C 21/05/2024

Gobaith a gwersi i'w dysgu wedi twf yn nifer siaradwyr Gaeleg Yr Alban

Mae nifer y bobl yn yr Alban sy’n siarad Gaeleg wedi cynyddu.

Mae ffigyrau cyfrifiad 2022 yn dangos bod 69,701 o bobl yn gallu siarad Gaeleg yr Alban erbyn hyn. 

57, 602 oedd y ffigwr yn 2011.

Cynnydd yn nifer y plant sy’n astudio’r iaith yn yr ysgol sydd yn gyfrifol am y ffigyrau calonogol yn ôl arbenigwyr. 

Mae 2.5 % o bobl dros dair oed bellach yn medru rhywfaint o’r iaith, ac mae hynny’n gynnydd o ryw 50% o’i gymharu â 2001.

Mae disgyblion ysgol, athrawon ac academyddion yn galw am wneud mwy i hybu’r iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, os am sicrhau bod yr iaith yn ffynnu o ddydd i ddydd o fewn cymunedau. 

'Troi cornel'

Mae'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cytuno bod angen gweithredu i sicrhau twf yn yr iaith.

“Os na fydd yna gornel yn cael e throi hefo’r Gaeleg mi welwn ni y bydd hi’n iaith rwydweithiau, y bydd hi’n iaith cymdeithasau, y bydd hi’n iaith lleiafrifoedd bychain o fewn poblogaethau llawer mwy ac na fydd hi’n iaith gymunedol, ddaearyddol yn y ffordd rydan ni wedi ei gweld hi dros y canrifoedd diwetha.”

Mae tystiolaeth fod hynny eisoes yn digwydd, gyda’r iaith yn colli tir yn rhai o’i chadarnleoedd traddodiadol.

Ar Ynysoedd  Gorllewinol yr Alban er enghraifft – mae’r iaith yn cael ei hystyried fel un lleiafrifol erbyn hyn. Roedd 54% o bobl yr ynysoedd yn siarad yr iaith yn 2011, ond mae’r  ffigwr wedi gostwng i 45% yn ôl cyfrifiad 2022.

'Tanseilio'

Dywedodd Y Parchedig John Owain Jones, sy'n byw yn Greenock, tua 30 milltir o Glasgow, bod ystyried iaith fel un lleiafrifol yn ei thanseilio.

“Mae’n siomedig achos fod yna ansawdd arbennig i’r Gaeleg sy’n cael ei siarad ar yr ynysoedd a hefyd o ran hynny mae’r Gaeleg sy’n cael ei siarad yn Skye er enghraifft yn wahanol iawn i’r Gaeleg sy’n cael ei siarad yn Lewis.

"A’r argraff dwi’n cael ydy y bydd y gwahaniaethau yma sy’n rhan o gyfoeth yr iaith yn cael eu tanseilio ac efallai’n marw allan os ydy’r iaith yn marw yn y cadarnleoedd, ac mae hynny’n golled.”

Er bod sefyllfa’r Gymraeg dipyn yn fwy cadarnhaol, roedd yna ostyngiad yn nifer y siaradwyr yn ôl cyfrifiad 2021, gyda’r dirywiad yn y cadarnleoedd hefyd yn broblem amlwg yma. 

Dyfodol

Sut mae mynd ati felly sicrhau dyfodol iaith leiafrifol?

“Be sy gyda ni yng Nghymru wrth gwrs yw mae gyda ni gontiniwm daearyddol, ieithyddol, yn enwedig ar hyd y gogledd ac yn rhannau sylweddol o’r de orllewin," meddai Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

"Be sy’n bwysig i ni ydy sicrhau bod gyda ni gyfleoedd i bobl o’r gwahanol ardaloedd hynny i gymysgu hefo’i gilydd a bo ni ddim dim ond yn edrych ar symunedd poblogaeth o’r gogledd a’r gorllewin i lawr i’r de.

"Ond bo ni hefyd yn edrych ar gyfleoedd i bobl sy wedi eu magu yn ne Cymru i fedru symud i’r gogledd a’r gorllewin heb fod gyda nhw unrhyw gysylltiad teuluol. Felly mae’n rhaid i ni edrych yn fwy cylchol ar sut mae’n symudedd ni’n digwydd.” 

Cugallach – gair sy’n golygu ansicrwydd, sensitifrwydd ac ansefydlogrwydd – gair sydd, er y newyddion calonogol, yn dal, ar hyn o bryd o leiaf, i gyfleu dyfodol un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Llun: Pixabay

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.