Paralympaidd Paris: ‘Sgandal’ nad yw’r Metro wedi ei addasu
Mae’n “sgandal” nad oes yna fwy wedi ei wneud i wella’r Metro ym Mharis i bobl ag anableddau cyn y Gemau Paralympaidd.
Dyna mae’r elusen anableddau APF France Handicap yn dweud.
Yn ôl yr elusen mae’r Metro yn “staen du” yn erbyn gwaddol y Gemau Paralympaidd.
Mae Arlywydd y Pwyllgor Rhyngwladol Paralympaidd wedi dweud ei fod yn deall y “rhwystredigaeth”. Ond dywedodd bod yna “fuddsoddiad anferth” wedi bod yn y bysiau yn y brifddinas.
Mae disgwyl i tua 350,000 o bobl ddod i wylio’r Gemau'r haf hwn.
Fe fydd yna fysiau a thacsis hygyrch ar gael i bobl anabl ddefnyddio er mwyn teithio o gwmpas y ddinas.
Mae £107m wedi ei fuddsoddi yn y bysiau gyda lle i ddau berson sydd â chadair olwyn ar bob bws.
Ond dim ond un o’r 16 llinell Metro sydd yn hollol addas i unigolion sydd â chadair olwyn.
Yn ôl Nicolas Mérille, llefarydd o’r elusen APF, dyw’r awdurdodau ddim wedi gwneud newidiadau parhaol i wella hygyrchedd.
“Mae’r gwaddol yn wan iawn iawn. Ac yn amlwg y staen du yw’r Metro.”