Caerdydd: Ymgyrchwyr yn beirniadu cynllun llwybr beicio poblogaidd
Mae ymgyrchwyr o blaid ehangu darpariaeth llwybrau beicio yng Nghaerdydd wedi beirniadu cynlluniau’r cyngor ar gyfer un o’u ffyrdd seiclo mwyaf poblogaidd.
Roedd Dinas Feicio Caerdydd wedi gobeithio y byddai llwybr Taith Taf yn cael ei addasu ym Mharc Hailey i’r gogledd o Landaf fel nad oedd rhaid i gerddwyr a seiclwyr ei rannu.
Roedd cyngor y ddinas wedi ymgynghori ar gynlluniau i ledaenu'r llwybr a hefyd sicrhau bod rhan o’r llwybr yn cael ei gadw ar wahân ar gyfer seiclwyr.
Dywedodd Dinas Feicio Caerdydd eu bod nhw’n siomedig bod y cyngor bellach wedi penderfynu “methu cyfle” drwy gadw at y cynllun gwreiddiol yn hytrach na chyflwyno’r newidiadau.
“Nid yw [Dinas Feicio Caerdydd] yn credu y bydd y cynnig presennol yn lleihau gwrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr yn y parc,” medden nhw.
“Mewn gwirionedd, mae’n debygol o gynyddu gwrthdaro oherwydd yr aflonyddwch a achosir yn ystod y gwaith adeiladu a hefyd oherwydd bod y cyngor yn bwrw ymlaen â defnyddio llwybrau a rennir.”
‘Ddim yn llwybr cymudo’
Dywedodd y cyngor ei fod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â symud y llwybr am nifer o resymau gan gynnwys y gost a diogelu gwreiddiau coed aeddfed.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae’r cyngor eisiau adeiladu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy i brifddinas Cymru.
“Fel rhan o’n huchelgeisiau Cryfach, Gwyrddach, Tecach rydym wedi ymrwymo i wella llwybrau beicio a cherdded.
“Dros amser bydd hyn yn cynnig ffyrdd gwyrddach ac iachach o symud o gwmpas y ddinas i drigolion ac ymwelwyr.
“Ymgynghorwyd ddwywaith ar y llwybr beicio arfaethedig ym Mharc Hailey gyda’r cyhoedd a budd-ddeiliaid
“Trwy’r broses hon, dewiswyd yr opsiwn rhannu defnydd, gan fod y llwybr drwy barc, ar gyfer gwahanol bobl sy’n defnyddio’r parc at wahanol ddibenion.
“Nid creu llwybr cymudo cyflym i feicwyr yw’r nod.”