Newyddion S4C

Pleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething yn ‘cyflawni dim’ heb gefnogaeth aelodau Llafur

19/05/2024
Vaughan Gething

Fe fyddai pleidlais o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog Cymru yn “cyflawni dim” heb gefnogaeth aelodau Llafur yn y Senedd.

Dyna farn arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth pan ofynnwyd iddo a fyddai ei blaid yn cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi dweud ei fod yn debygol y bydd ei blaid yn cynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Fe awgrymodd Rhun ap Iorwerth wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales hefyd nad oedd gan Blaid Cymru eu hunain hyder yn y Prif Weinidog.

Ond roedd peryg na fyddai pleidlais yn cyrraedd y nod os nad oedd y grŵp Llafur eu hunain yn penderfynu na ddylai Vaughan Gething fod yn Brif Weinidog.

“Rwy’n credu ei fod yn glir ein bod ni’n dangos nad oes gyda ni hyder yn ei arweinyddiaeth ac fe fyddai hynny’n arwain at ffordd glir o bleidleisio mewn etholiad,” meddai.

“Mae hynny am fod ganddo gymaint o waith i’w gyflawni o ran dangos bod ganddo'r crebwyll i fod yn Brif Weinidog.

“Ond yn y pen draw y ddadl ydw i’n ei osod gerbron yw bod hyn i fyny i’r Blaid Lafur.

“Mae yna sawl ymgais at bleidlais o ddiffyg hyder wedi bod dros y blynyddoedd ac maen nhw wedi cyflawni dim.

“Beth sydd angen i ni weld ydi’r arweinyddiaeth gorau ac yng Nghymru ac mae hynny wedi bod ar goll hyd yma.”

'Bwrw ymlaen'

Ar yr un rhaglen fe awgrymodd y gweinidog amaeth Huw Irranca Davies y byddai aelodau’r Blaid Lafur yn y Senedd yn cefnogi Vaughan Gething pe bai yna bleidlais.

“Mae wedi bod yn wythnos derfysglyd ac yn wythnos sydd wedi ein cleisio,” meddai.

“Rydym wedi cael trafodaethau didwyll a gonest, ond mae undod y grŵp yn gryf iawn, iawn. 

“Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl, os daw hyn i bleidlais os bydd y gwrthbleidiau yn dewis gwneud hynny, y byddwn yn dal yn gryf oherwydd bod gwaith i'w wneud. 

“Mae yna stwff i’w gyflawni o ddydd i ddydd.

“Ac mae pobl Cymru eisiau i ni fwrw ymlaen ac nid yw hynny’n osgoi'r cwestiwn, dyna realiti caled yr ydym yn cael ein hethol i'w wneud mewn gwirionedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.