Newyddion S4C

Cyhoeddi enillydd tlws er cof am Aled Roberts

18/05/2024
Gwilym Roberts ac Aled Roberts

Gwilym Roberts o Gaerdydd ydy enillydd Tlws Coffa Aled Roberts eleni. 

Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno er cof am y cyn aelod Cynulliad a chyn Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.

Wedi ei eni a’i fagu yn y brifddinas, mae Gwilym Roberts (uchod ar y chwith) wedi treulio 31 o flynyddoedd fel athro Cymraeg, gan ddysgu mewn tair ysgol gynradd cyn iddo ymddeol yn gynnar i wirfoddoli ym Mhatagonia er mwyn dysgu’r iaith yno. 

Dros y blynyddoedd, mae wedi rhoi gwersi Cymraeg i bobl ifanc chweched dosbarth ardal Caerdydd ac yn diwtor ar gyrsiau penwythnos Grŵp Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith –  a hynny oll yn wirfoddol.

Yn ôl Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts, mae’r Gwilym yn “enghraifft berffaith” o rywun sydd wedi gweithio’n “ddiflino” yn helpu pobl i fagu hyder gyda’u Cymraeg.

Cafodd Gwilym Roberts ei enwebu am Dlws Coffa Aled Roberts gan Anne Utuska, ag yntau wedi rhoi gwersi Cymraeg iddi. 

“Mae Gwilym wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi - ac i lawer o bobl eraill,” meddai. “Roedd yn arfer cynnal dosbarth Cymraeg cyn Aelwyd yr Urdd, i bobl ifanc chweched dosbarth oedd ddim yn rhugl ar y pryd. 

“Roeddem ni wedyn yn gallu ymuno yn yr aelwyd yn syth ar ôl y dosbarth pan fyddai’r siaradwyr Cymraeg yn cyrraedd. Gwilym oedd yn gofalu amdanom yn ystod y gweithgareddau gan roi cymorth i ni ddefnyddio ac ymestyn ein hiaith. 

“Aeth nifer ohonom ymlaen i wneud ein hastudiaethau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Heb gyfraniad Gwilym a’r gwirfoddolwyr eraill, ni fyddai hynny wedi gallu digwydd.”

'Allweddol i'r Gymraeg'

Roedd Gwilym Roberts hefyd wedi treulio nifer o flynyddoedd fel tiwtor ar gyrsiau penwythnos Grŵp Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith a byddai’n dod â nifer o diwtoriaid eraill gydag ef i sicrhau llwyddiant y cyrsiau.

Yn ôl Ms Utuska, ef sydd yn gyfrifol am adfywiaid y Gymraeg mewn ardaloedd ledled y byd. 

“Heb ei weledigaeth ef, ni fyddai bri ar yr iaith Gymraeg fel sydd yn awr – nid yn unig yng Nghaerdydd, ond mor bell â Phatagonia lle bu cyfraniad Gwilym, yn wirfoddol unwaith eto, yn allweddol i adfywiad y Gymraeg yn y Wladfa," meddai.

Cyhoeddwyd mai Mr Roberts oedd enillydd y tlws eleni yng nghynhadledd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn ystod yr wythnos hon.

Dywedodd Helen Prosser, sef Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae hi mor braf cael cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr i’r sector dysgu Cymraeg. Cwrddais i â fe gyntaf pan o’n i’n blentyn ar gwrs ail iaith yng Ngwersyll Llangrannog pan roddodd docyn iaith i fi am ddweud y gair ‘clogwyn’. 

“Pan gyhoeddwyd mai yn Rhondda Cynon Taf y byddai Eisteddfod 2024, gan Gwilym y derbyniais y siec a’r cerdyn cyntaf. Mae e’n driw i bob achos ac yn enillydd cwbl haeddiannol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.