Newyddion S4C

Pryder am faint o Gymry sy'n llosgi yn yr haul wrth i'r hinsawdd newid

ITV Cymru 18/05/2024
Chris Bryant

Mae yna bryderon am faint o Gymry sy'n llosgi yn yr haul wrth i newid hinsawdd olygu y gallai pobl fod yn treulio mwy o amser y tu allan.

Mae arolwg newydd gan elusen Melanoma Focus yn awgrymu bod bron i dri-chwarter y Cymry rhwng 16-65 yn cofio llosgi yn yr haul yn blant, gyda 59% o’r rheiny’n dweud eu bod nhw wedi llosgi'n wael. 

Mae un pothell llosg haul yn ystod plentyndod neu lencyndod yn fwy na dyblu y tebygolrwydd o ddatblygu canser melanoma y croen yn ddiweddarach mewn bywyd, meddai'r elusen.

Gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y bydd 2024 yn un o’r hafau poethaf wedi’i gofnodi erioed, mae arbenigwyr canser y croen yr elusen yn poeni y bydd yn arwain at gynnydd mewn faint o Gymry fydd yn treulio mwy o amser yn yr haul.

Melanoma yw’r math mwyaf angheuol o ganser y croen ac mae ar gynnydd yn y DU. Bydd 1 o bob 36 o ddynion ac 1 o bob 47 o fenywod yn y DU nawr yn cael diagnosis o ganser y croen melanoma yn ystod eu hoes. 

Dywedodd yr Athro Catherine Harwood, Dermatolegydd Ymgynghorol ac Ymddiriedolwr Melanoma Focus: “Mae niwed dod i gysylltiad ag UV yn cynyddu eich risg o ganser y croen dros amser a bydd llosg haul yn ystod plentyndod neu lencyndod yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu melanoma yn ddiweddarach mewn bywyd.”

'Plîs osgowch yr haul' 

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth Chris Bryant, AS i’r Rhondda, ddatgelu bod ei felanoma wedi dychwelyd yn ei ysgyfaint.

Mewn fideo a gyhoeddodd ar X, Twitter gynt, dywedodd Mr Bryant ei fod e wedi derbyn y newyddion yn dilyn ei sgan fwyaf diweddar ym mis Ionawr eleni.

Dywedodd: “Am y pum mlynedd ddiwethaf, dwi wedi cael sganiau, mae pob un wedi dod yn ôl yn iawn.

“Yn anffodus, roedd yr un olaf i fod ym mis Ionawr eleni ac ro’n i’n helpu yn isetholiad Kingswood pan wnaeth fy meddyg i fy ffonio ar fy mhenblwydd i ddweud wrthyf ‘Mae’n ddrwg iawn gen i ddweud bod eich sgan diweddaraf wedi dangos rhywbeth yn eich ysgyfaint dde.'

"Bythefnos yn ddiweddarach, ro’n i yng ngwely'r ysbyty. Fe wnaethon nhw roi robot yn fy ysgyfaint. Fe wnaethon nhw dorri allan ychydig ac fe ddaeth i’r amlwg bod gen i felanoma yn fy ysgyfaint.

"Nid canser yr ysgyfaint, ond canser y croen yn fy ysgyfaint. Yn y blynyddoedd a fu, efallai fyddai hynny wedi bod yn golygu marwolaeth, ond diolch i imiwnotherapi, fy mhrognosis, mae siawns gen i fod yn rhydd o ganser mewn 10-15 mlynedd."

Wrth siarad ag ITV Cymru, dywedodd Mr Bryant: “Fe wnaethom ni fyw yn Sbaen am bum mlynedd o’m bywyd, yn yr adeg yna pan wnaethoch chi fynd ar eich gwyliau lle mae gennych chi olew yr olewydd drostoch chi i drïo cael eich llosgi. 

“Felly, y neges gref iawn yma yw plîs, plîs, plîs osgowch yr haul rhwng 11yb a 3:30yp.” 

'Hynod ddifrifol'

Dywedodd Susanna Daniels, Prif Weithredwr Melanoma Focus: “Mae angen i ni i gyd ofalu am ein croen ond mae'n arbennig o bwysig osgoi llosgi yn ystod plentyndod. 

"Gallwch wneud hyn trwy chwilio am gysgod a defnyddio hetiau haul, sbectol haul ac eli haul (SPF 30 neu uwch) i orchuddio croen agored, yn enwedig yng ngwres y dydd.

“Rydym yn argymell, yn enwedig ar gyfer plant, nad ydych yn defnyddio eli haul sy'n honni mai dim ond unwaith y dydd sydd ei angen arnoch. Mae'r mathau hyn o eli haul wedi'u profi mewn amodau labordy rheoledig lle nad yw rhai ffactorau megis nofio, ymarfer corff a chwysu wedi'u hystyried.

“Mae canser y croen melanoma yn hynod ddifrifol ac, er ei fod yn ataliadwy i raddau helaeth, ry’n ni nawr mewn sefyllfa lle mae mwy o bobl yn marw o felanoma yn y DU nag yn Awstralia.

“Amddiffyn plant rhag llosgi yw’r ffordd orau i ni leihau eu siawns o ddatblygu melanoma yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.