Miloedd o swyddogion yr heddlu wedi derbyn hyfforddiant i fynd i'r afael â throseddau rhyw
Mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth y DU wedi dweud ei fod am sicrhau fod "mwy o droseddwyr rhyw yn cael eu carcharu" wedi i filoedd o swyddogion yr heddlu derbyn hyfforddiant arbenigol.
Yn ôl y Coleg Plismona, mae 4,540 o swyddogion yng Nghymru a Lloegr wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol i’w wneud ag ymchwilio achosion o dreisio a throseddau rhyw.
Mae’r ffigwr yn fwy na dwbl targed a gafodd ei osod gan y llywodraeth oedd yn anelu at hyfforddi hyd at 2,000 o swyddogion erbyn mis Mai – ac mae James Cleverly wedi dweud fod hyn yn “carreg filltir arwyddocaol.”
Dywedodd y Coleg Plismona, sef y corff sy’n gyfrifol am hyfforddiant swyddogion yng Nghymru a Lloegr, fod swyddogion wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ym mhob un o’r 43 llu ar hyd a lled y ddwy wlad.
Ond nid yw’r Coleg wedi cyhoeddi faint o swyddogion o bob llu sydd wedi cael eu hyfforddi hyd yma.
Mae’r hyfforddiant yn golygu y dylai dioddefwyr troseddau rhyw gael “eu cefnogi’n well” gan swyddogion, gyda throseddwyr yn cael eu herlyn yn y modd priodol, meddai Swyddfa’r Cartref.
'Rhy araf'
Ond yn ôl Ysgrifennydd Cartref cysgodol y blaid Lafur, Yvette Cooper, mae datblygiadau o’r fath wedi bod yn “llawer rhy araf” yn cael eu gweithredu.
“Nid yw’n mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael a thrais difrifol yn erbyn menywod a merched, nac yn gwrthdroi’r methiannau yn ystod y 10 blynedd diwethaf,” meddai.
Mae’r nifer o bobl sy’n cael eu herlyn am dreisio oedolion ar eu lefel uchaf ers 13 mlynedd, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Cafodd 2,558 o bobl eu herlyn y llynedd, sef cynnydd o 44% ers 2022. Ond yn ôl ffigyrau Swyddfa’r Cartref o’r un cyfnod, mae cyfran y rheiny sy’n mynd i’r llys ar amheuaeth o dreisio yn parhau i fod ymhlith y lefelau isaf ar gofnod, gyda chyfradd cyhuddo o 2.6%.
Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Farwnes Newlove, wedi dweud fod nifer y swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n “cam cadarnhaol” ond ei fod yn “hollbwysig” i Wasanaeth Erlyn y Goron barhau i gydweithio gyda’r heddlu er mwyn sicrhau “newid parhaol.”
Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n gyfrifol am wasanaethau’r heddlu yng Nghymru a Lloegr, a Mr Cleverly sy’n atebol i’r cyhoedd a’r Senedd ynglŷn â pherfformiad lluoedd yr heddlu.
Llun: Owen Humphreys/PA Wire