Newyddion S4C

‘Dyddiau’ nes bod bwyd yn rhedeg allan yn Gaza

17/05/2024
Israel / Gaza

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio y bydd bwyd a thanwydd yn Gaza yn rhedeg allan ‘o fewn dyddiau’.

Fe wnaeth pennaeth y Cenhedloedd Unedig (UN), António Guterres, rybuddio ddydd Iau yn erbyn ymosodiad ar raddfa lawn ar Rafah gan luoedd Israel, tra bod gweithwyr dyngarol yn ceisio ailgyflenwi stociau o fwyd sydd yn ‘beryglus o isel.’

“Nid yw’r bygythiad o newyn erioed wedi bod mor fawr,” yn ôl Cynllun Bwyd y Byd (WFP) y Cenhedloedd Unedig.

“Mae’r WFP yn hynod bryderus y byddai esgyniad arall yn y brwydro yn gwaethygu’r catastroffi dyngarol a rhoi stop ar gynlluniau i rannu cymorth.”

Wrth alw am ryddhau’r gwystlon o Israel sydd yn parhau i gael eu dal yn Gaza “ar unwaith ac yn ddi-amod” gan Hamas, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr UN, António Guterres, wrth arweinwyr y Cynghrair Arabaidd nad oedd “unrhyw beth yn cyfiawnhau cosbi cyfunol” dinasyddion Palestina.

Daw wrth i luoedd IDF (Israeli Defence Force) baratoi ymgyrch yn ninas Rafah yn ne Gaza, ar ôl rhoi gorchymyn i dros 100,000 o bobl i adael.

Bellach mae’r UN yn credu fod 600,000 o bobl – sef chwarter poblogaeth Gaza – wedi eu gorfodi i symud o Rafah.

Mae 100,000 o bobl ychwanegol wedi eu gorfodi i adael rhannau gogleddol llain Gaza er mwyn cydymffurfio a gorchmynion milwrol, yn dilyn adroddiadau fod y brwydro trwm yn parhau rhwng lluoedd Hamas ac IDF.

Mae’r UN yn credu bellach fod gorchmynion gwacáu bellach mewn grym mewn 285km sgwâr yn Gaza – sydd yn gyfystyr â 78% o’r tir cyfan.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr UN, António Guterres: “Byddai unrhyw ymosodiad yn Rafah yn annerbyniol; byddai yn achosi ton arall o boen o drallod pan beth sydd ei angen yw ton o gymorth gall achub bywydau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.