Newyddion S4C

Gwrthwynebiad i greu cae pêl-droed pob tywydd yn Ysgol y Creuddyn oherwydd pryderon am iechyd

15/05/2024
Cae artiffisial Ysgol y Creuddyn

Mae trigolion pentref wedi  lansio ymgyrch yn erbyn cynlluniau i adeiladu cae pêl-droed pob tywydd tu ôl i ysgol uwchradd Gymraeg.

Mae ymgyrchwyr ym Mae Penrhyn yn sir Conwy wedi honni y gallai gwyneb artiffisial y cae gynnwys carsinogenau, sydd yn gallu achosi datblygiad canser.

Mae Cyngor Conwy wedi gwneud cais i’w hadran gynllunio ei hun am ganiatâd ar gyfer y cae yn Ysgol y Creuddyn.

Os rhoddir caniatâd cynllunio, bydd y cae yn cael ei adeiladu ar gaeau y tu ôl i'r ysgol.

Er mai dim ond yr wythnos ddiwethaf y cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi, mae nifer o drigolion lleol eisoes yn gwrthwynebu, gan nodi llygredd, sŵn a golau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhai o'r rhesymau pam eu bod yn erbyn adeiladu'r cae.

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Aelod Seneddol Aberconwy, Janet Finch-Saunders yn y pentref yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn targedu gwahardd caeau artiffisial erbyn 2031 oherwydd pryderon am effaith y carsinogenau, ond nid yw hyn yn berthnasol i’r DU.

Fis diwethaf fe wnaeth Brifysgol Stirling honni y dylai'r “briwsion rwber” ar gaeau o'r fath gael eu disodli gan ddeunyddiau eraill.

'Hynod o ddrwg'

Un dyn lleol sydd yn erbyn y cynlluniau yw Mark Adamson.

“Rwyf wedi fy syfrdanu sut y gall sefydliad sy’n gartref i ysgol gynradd, ysgol feithrin, neuadd chwaraeon, a chanolfan gymunedol wneud cais am gae 3G, yn union ar ôl gwaharddiad (arfaethedig) yn Ewrop oherwydd y carsinogenau sydd yn arbennig o beryglus i ddatblygu'r ysgyfaint, ”meddai.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn aros am adroddiad gan DEFRA, sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn. Felly'r cwestiwn yn ddi-os yw, beth am aros tan yr adroddiad hwn i wybod yn sicr a yw’r briwsion rwber yn ddiogel.”

Ychwanegodd Joel Groves, sydd hefyd yn gwrthwynebu: “Mae’r caeau 3G hyn yn hynod o ddrwg i’r amgylchedd ac iechyd.

“Mae Cyngor Sir Conwy yn anwybyddu’r penderfyniad Ewropeaidd yn llwyr ac, yn fy marn i, yn ceisio gwthio hyn drwodd mor gyflym â phosib, gan wybod bod y DU ar hyn o bryd yn adolygu’r ddeddfwriaeth ac y bydd yn adrodd yn ôl yn ystod gwanwyn 2025.”

Ysgrifennodd Janine Nichols llythyr at Janet Finch-Saunders AS.

Roedd y llythyr yn darllen: “Ein cartrefi a’n gerddi yw ein noddfa ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith. Rydyn ni'n eu defnyddio ar gyfer gorffwys, adferiad, seibiant, a'n lles meddyliol.

“Bydd y synau traw, ymddygiad gwrthgymdeithasol, llifoleuadau llachar, a pheli di-dor yn dod draw i’n gerddi ac yn achosi difrod i’n gardd a’n heiddo yn amharu’n llwyr ar hyn.”

Cais yn cael ei 'ruthro'

Wrth siarad yr wythnos hon, dywedodd Mrs Finch-Saunders y bydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn sgil y pryderon.

“Er fy mod wedi derbyn nifer o sylwadau gan y rhai sy’n dymuno’r datblygiad newydd hwn, mae’n rhaid dweud bod yna gorff mawr o wrthwynebiad.

“O ganlyniad i’r cyfarfod, byddaf nawr yn cysylltu â Llywodraeth Cymru, adran addysg yr awdurdod lleol, a Ffit Conwy.

“Mae yna deimlad amlwg bod y cais hwn yn cael ei ruthro drwodd, ac rwy’n bwriadu sicrhau bod ffeithiau llawn y cynllun yn cael eu  rhoi i’r trigolion pryderus.

“Y peth lleiaf y dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei wneud yw cynnal sesiwn ymgynghori cyhoeddus arall.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy: “Mae’r cais cynllunio wedi’i gyflwyno ac yn mynd drwy’r broses gynllunio arferol.

“Mae modd gweld y cais ar-lein.”

“Rydym yn annog trigolion lleol neu bartïon eraill â diddordeb i gyflwyno eu sylwadau erbyn y dyddiad cau ar 11 Mehefin.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.